pwy all faethu?
Mae pob rhiant maeth yn unigolyn ac mae pob teulu maeth yn unigryw – mae’n rhywbeth rydyn ni’n ei ddathlu.
dysgwych mwycydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Mae’r cariad a’r gefnogaeth y mae rhieni maeth yn eu rhoi yn gwneud byd o wahaniaeth i blant lleol nad ydyn nhw’n gallu byw gyda’u teuluoedd. Dewch i glywed pa mor werth chweil y gall maethu fod – dewch i adnabod ein tîm lleol.
Ni yw Maethu Cymru Casnewydd – gwasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol.
Mae pob rhiant maeth yn unigolyn ac mae pob teulu maeth yn unigryw – mae’n rhywbeth rydyn ni’n ei ddathlu.
dysgwych mwyYdych chi’n meddwl tybed sut mae maethu’n gweithio, beth yw’r cyfrifoldebau o ddydd i ddydd a sut gallwch chi ddechrau arni? Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael, yma.
mae'r atebion ar gaelNi yw eich tîm lleol, ymroddedig ac rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Ein nod yw gwneud y gorau i’r holl blant a phobl ifanc yn ein gofal, ac mae hynny’n golygu gofalu go iawn a bod yn rhan o’r gymuned yma yng Nghasnewydd.
Rydyn ni’n rhoi pobl o flaen elw – ac fel sefydliad nid-er-elw, gallwn warantu y byddwn bob amser yn gwneud hynny.
Er mwyn eich cefnogi ym mhob ffordd, rydyn ni’n cynnig manteision hael, cefnogaeth gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol medrus, a chymysgedd amrywiol o gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae rhagor o wybodaeth am fanteision dod yn ofalwr maeth ar gael yma.
O’ch cyswllt cyntaf â’n tîm i fod yn ofalwr maeth go iawn, mae llawer i’w wybod am faethu.
Mae’n ymrwymiad mawr ac yn rôl sy’n newid bywyd hefyd. Bydd maethu yn eich herio chi, ond byddwch ar eich ennill bob dydd hefyd, bob tro y byddwch yn sylweddoli’r gwahaniaeth rydych yn ei wneud.
Mae’r cyfan yn dechrau gydag un cam bach. Dysgwch sut mae cychwyn y broses o ddod yn ofalwr maeth, a beth allwch chi ei ddisgwyl ar ôl i chi wneud hynny.
dysgwych mwyEfallai y cewch eich synnu gan yr amrywiaeth o fanteision sy'n dod law yn llaw â bod yn ofalwr maeth. Mae arbenigedd ein tîm ymroddedig bob amser ar gael dros y ffôn, ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o fanteision i gyfoethogi eich profiad o faethu o ddydd i ddydd. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i fod y gorau y gallwch chi fod.
beth rydym yn ei gynnig