
Beth ydych chi eisiau ar gyfer y Nadolig? Beth am ddiwrnod hamddenol allan i wneud ychydig o siopa Nadolig yn y marchnadoedd Nadolig gorau yng Nghasnewydd?
Rydym yn gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch y Nadolig hwn, felly rydym wedi llunio rhestr o rai o’r marchnadoedd mwyaf cyffrous a Nadoligaidd, lle gallwch gael yr eitemau sydd ar eich rhestr anrhegion a chael amser ar gyfer gwin cynnes neu ddau.
Felly dyma rai o’r marchnadoedd Nadolig gorau i ddod o hyd i’r anrhegion perffaith y tymor Nadolig hwn yng Nghasnewydd.
Marchnad Nadolig Casnewydd
Eleni, bydd Marchnad Nadolig boblogaidd Casnewydd yn dychwelyd diolch i AGB Casnewydd a’r cwmni o Gasnewydd, Green Top Events.
Drwy gydol mis Rhagfyr bydd nifer o stondinau Nadoligaidd ar Commercial Street, yn Friars Walk, ac yn Sgwâr John Frost bob dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Gall siopwyr Nadolig fwynhau amrywiaeth o ddanteithion Nadoligaidd yn ogystal â nwyddau a chrefftau wedi’u gwneud â llaw gan nifer o fasnachwyr.
Marchnad bwyd a chrefftau Cotyledon, yn nhŷ Tredegar
Gallwch fwynhau Nadolig traddodiadol Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd eleni gyda theithiau, llwybrau a stondinau Nadoligaidd oherwydd bydd marchnad bwyd a chrefftau Cotyledon yn dychwelyd mewn pryd ar gyfer ychydig o siopa Nadolig!
Mae amrywiaeth o stondinau yn llawn cynnyrch lleol ac mae’r farchnad yn lle perffaith i gasglu anrhegion Nadolig unigryw.
Rhagor o wybodaeth: Dathlu’r Nadolig yn Nhŷ Tredegar | Casnewydd, | De Cymru | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Marchnadoedd Parc Belle Vue
Mae gan Barc Belle Vue nifer o ddigwyddiadau y Nadolig hwn drwy garedigrwydd Ystafelloedd Te Belle Vue. Yn gyntaf, mae’r farchnad Nadolig deuddydd cynnwys stondinau gan gynhyrchwyr bwydydd artisan, gwneuthurwyr a chrewyr crefftwyr lleol yn gwerthu anrhegion a danteithion wedi’u gwneud â llaw.
Nesaf, mae’r groto Siôn Corn cyffrous â’r thema Polar Express.
Rhagor o wybodaeth: Nadolig yn Belle Vue (bellevuetearoom.uk)
Marchnad Nadolig Gŵyl Caerllion
Bydd marchnad ffermwyr Nadolig Caerllion a gynhelir gan Ŵyl Caerllion, yn digwydd ddydd yn neuadd y dref.
Bydd llu o werthwyr lleol gwych i ddewis o’u plith, manwerthwyr rheolaidd i’r farchnad flynyddol yn ogystal â rhai newydd.
Rhagor o wybodaeth: https://caerleon-arts.org/events