mathau o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Yn ei hanfod, mae maethu’n golygu darparu rhywle diogel, cysur a sefydlogrwydd i rywun sydd ei angen. Gallai hyn fod yn blentyn ifanc iawn, yn berson ifanc yn ei arddegau, yn rhieni gyda babi newydd, neu’n blentyn gydag anghenion mwy cymhleth.

Mae angen gofal maeth ar bob math o blant, ac rydyn ni’n cynnig nifer o wahanol fathau o ofal – oherwydd wedi’r cyfan, mae pob plentyn yn unigolyn. O aros dros nos i gartrefi maeth mwy parhaol, dyma wybodaeth am y gwahanol fathau o ofal maeth.

gofal maeth tymor byr

Yn ei hanfod, mae maethu’n golygu darparu rhywle diogel, cysur a sefydlogrwydd i rywun sydd ei angen. Gallai hyn fod yn blentyn ifanc iawn, yn berson ifanc yn ei arddegau, yn rhieni gyda babi newydd, neu’n blentyn gydag anghenion mwy cymhleth.

Mae angen gofal maeth ar bob math o blant, ac rydyn ni’n cynnig nifer o wahanol fathau o ofal – oherwydd wedi’r cyfan, mae pob plentyn yn unigolyn. O aros dros nos i gartrefi maeth mwy parhaol, dyma wybodaeth am y gwahanol fathau o ofal maeth.

gofal maeth tymor hir

Yn yr un modd â gofal maeth tymor byr, does dim amser penodol ar gyfer cartref maeth tymor hir. Yr hyn sy’n gwneud y math hwn o ofal maeth yn wahanol yw ei fod yn golygu cynnig cartref mwy parhaol i blentyn lleol sydd angen hynny.

Mae gofal maeth tymor hir yn ymwneud ag edrych ymlaen a gwneud y penderfyniad i fod yno – cyhyd ag y bydd angen. Mae’n golygu dod yn deulu. Fel gofalwr maeth tymor hir, dydych chi ddim yn cynnig ystafell wely sbâr yn unig. Rydych hefyd yn cynnig lle diogel a chyfarwydd, rhywle i deimlo’n ddiogel.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae gofal maeth tymor byr a thymor hir yn cynnwys nifer o fathau mwy penodol o faethu hefyd. Weithiau mae arnoch angen math gwahanol o gymeradwyaeth, neu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer rhai o’r mathau mwy arbenigol hyn o ofal maeth. Dyma rai enghreifftiau:

Adult helping boy learn to ride a bicycle

seibiant byr

Mae seibiant byr yn fath o ofal maeth tymor byr, pan fydd plant yn dod i ymweld ar adegau rheolaidd a phenodedig. Gallai hyn fod yn ystod y dydd, dros y penwythnos neu ddim ond dros nos weithiau. Dydy hyn ddim yn swnio fel llawer, efallai, ond gall y seibiant byr hwn fod yn werthfawr iawn i deuluoedd a phlant. Mae’n ymwneud â chael amser i ymlacio, cymryd seibiant a dod at eu hunain. Weithiau, mae hynny’n gwneud lles i bob un ohonon ni.

Gall seibiant byr fod yn ymweliadau untro neu reolaidd sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw. Maen nhw’n gyfle i gysylltu a mwynhau profiadau newydd – gallai hyn olygu taith am y dydd, neu ddim ond sgwrs ystyrlon iawn. Yn y pen draw, mae’n ymwneud â dod at ein gilydd i wneud gwahaniaeth. Rydych chi’n cynnig help llaw pan fydd ei angen fwyaf, a dyna sut rydyn ni’n gweithio fel cymuned.

rhiant a phlentyn

Does gan rai rhieni ifanc ddim yr holl sgiliau a phrofiad sydd eu hangen arnyn nhw, nid yn unig ar gyfer eu plentyn, ond i allu tyfu eu hunain hefyd.

Mae maethu rhiant a phlentyn yn golygu rhannu gwybodaeth a bod yn ddylanwad cadarnhaol. Mae’n ymwneud â throsglwyddo’r holl garedigrwydd, tosturi a phrofiad bywyd sydd gennych i’r genhedlaeth nesaf, er mwyn i’r genhedlaeth nesaf allu gwneud yr un fath.

gofal therapiwtig – Fy Nhîm Cymorth (MyST)

Mae gan rai plant anghenion mwy cymhleth – boed yn emosiynol neu’n ymddygiadol – ac mae hyn yn golygu bod gan eu gofalwyr maeth set sgiliau mwy penodol. O ran gofal therapiwtig, rydyn ni’n cefnogi ac yn hyfforddi ein rhieni maeth i ddarparu’r union beth sydd ei angen ym mhob achos unigol.

Er mwyn galluogi pob plentyn i gyrraedd ei botensial yn llawn, rydyn ni’n gweithio’n agos fel tîm gyda’r gofalwr maeth. Rôl y gofalwr maeth yw bod yn rhywun sefydlog – i gynnig gofal ac arweiniad – a’n rôl ni yw ei gefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni.

Dyma clip byr o rai o’n gofalwyr maeth. Gael gwybod mwy: https://www.mysupportteam.org.uk/cy/maethu-therapiwtig/

llety â chymorth

Mae gadael cartref yn brofiad brawychus a chyffrous i unrhyw berson ifanc. Pan fydd person ifanc yn gadael gofal maeth neu os nad oes ganddo deulu i'w gefnogi, gall hyn fod yn fwy heriol.

Gallech helpu person ifanc 16-21 oed drwy ddarparu pont rhwng gofal a byw’n annibynnol. Byddech yn cefnogi’r person ifanc mewn ffordd debyg i letywr. Ni fyddech yn cael eich cofrestru fel gofalwr maeth a byddwch yn cael eich asesu’n wahanol.

Byddech yn cynnig ystafell wely sbâr iddo ond hefyd yn ei helpu i fynychu addysg a chwilio am swydd neu hyfforddiant a chyda sgiliau bywyd fel coginio a chyllidebu. Mae llety â chymorth yn ffordd wych o ddechrau gofalu am bobl ifanc, ochr yn ochr â’ch ymrwymiadau eraill.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch