trosglwyddo i ni

dewiswch faethu cymru casnewydd

Maethu Cymru Casnewydd yw tîm maethu eich Awdurdod Lleol. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i blant a phobl ifanc ledled Casnewydd.

Rydyn ni’n rhan o dîm ehangach Maethu Cymru – y tîm cenedlaethol a asiantaethau maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru.

Os ydych chi’n ofalwr maeth eisoes ond ddim yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch drosglwyddo atom ni.

Happy senior man smiling with young boy on shoulders

manteision maethu gydag awdurdod lleol

Yn wahanol i asiantaeth faethu annibynnol, yma yn Maethu Cymru Casnewydd, fel rhan o’r Awdurdod Lleol, ni sy’n bennaf gyfrifol am yr holl blant yn ein hardal leol y mae angen gofal maeth arnyn nhw. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i ddarparu lefel eithriadol o ofal a chefnogaeth.

Rydyn ni bob amser yn rhoi pobl o flaen elw, ac rydyn ni’n blaenoriaethu cadw plant yn y cymunedau lleol maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru. Gallwn wneud hyn oherwydd, fel sefydliad nid-er-elw, mae’r holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn yn mynd tuag at y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu, a dim i unman arall.

Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad rhagorol yn ogystal â phecyn cystadleuol o gyllid a manteision, felly byddwch yn gwybod y bydd eich rôl fel rhiant maeth yn llawn manteision a buddion.

yr hyn yr ydym yn ei gynnig ym maethu cymru casnewydd

  • Lwfansau ariannol hael. Er enghraifft, ar hyn o bryd yng Nghasnewydd mae gennyn ni ofalwyr maeth sy’n derbyn £660 yr wythnos am faethu dau o blant 4 ac 8 oed. Darllenwch fwy am dâl i ofalwyr maeth yma.
  • Men Who Care – grŵp sy’n cynnig cymorth gan gyfoedion ac sy’n rhan o’r pecyn cymorth ychwanegol
  • Cymorth mentora gan ofalwyr maeth lleol profiadol
  • Rhwydwaith cymorth hynod gysylltiedig i blant sy’n derbyn gofal sy’n profi anawster au mewn addysg
  • Cyfarwyddyd, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cefnogol (Mhyst) – dewis amgen effeithiol i ofal preswyl i blant sydd mewn gofal ag anghenion cymhleth iawn
  • Tocynnau am ddim i gemau cartref Dreigiau Casnewydd yn Rodney Parade
  • Mynedfa am ddim i’r gampfa a’r pwll nofio ar gyfer y teulu maethu cyfan

Darllenwch fwy am gefnogaeth a gwobrau yma.

"Edrychais i mewn i foeseg asiantaethau maethu masnachol. Unwaith roeddwn i wedi gwneud ychydig o ymchwil a sylweddoli bod arian y trethdalwr yn mynd i berchnogaeth breifat am elw, doedd hi ddim yn cymryd llawer o amser i mi benderfynu. "

-Angela, gofalwr maeth Casnewydd

Darllenwch y stori gyfan yma.

sut i drosglwyddo atom ni

Mae’r broses o drosglwyddo o’ch asiantaeth maethu bresennol i’r Awdurdod Lleol yn rhwydd.

Yn ein sgwrs gyntaf, byddwn yn trafod yn agored sut mae’r broses yn mynd i weithio i chi. Gan eich bod eisoes yn y byd maethu, bydd y broses yn un benodol i’ch amgylchiadau chi.

Rydym am wybod sut allwn ni eich cefnogi yn y ffordd orau yn y dyfodol, nodi unrhyw anghenion a sicrhau ein bod yn eich adnabod yn drylwyr ar gyfer paru yn y dyfodol, felly ym mhob un o’r camau isod, bydd y profiad yn unigryw i chi.

I wybod mwy, lawrlwythwch ein canllaw trosglwyddo sydd ar gael isod.

cael eich canllaw trosglwyddo

Cliciwch ar y botwm isod i dderbyn canllaw ‘Trosglwyddo atom Ni’ sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am fanteision trosglwyddo atom ni, sut mae’r broses yn gweithio a pham ddylech chi drosglwyddo at Faethu Cymru Casnewydd.

gadewch i ni siarad am drosglwyddo i faethu cymru casnewydd

Canolfan Ddinesig, Casnewydd, De Cymru, NP20 4UR
Call 01633 210272

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon