pam ein dewis ni?
pam ein dewis ni?
pam ein dewis ni?
Mae dewis Maethu Cymru Casnewydd yn golygu ymuno â’n cenhadaeth i sicrhau dyfodol gwell i blant lleol yng Nghasnewydd a’r cyffiniau. Fel sefydliad nid-er-elw, rydyn ni’n rhoi popeth tuag at hyn – rydyn ni’n falch o fuddsoddi yn y sgiliau, yr arbenigedd a’r gofalwyr maeth gwych sydd gennyn ni, oherwydd dyna sy’n gwneud gwahaniaeth.
Mae ein tîm yng Nghasnewydd, ynghyd â’r 21 Awdurdod Lleol arall yng Nghymru, yn ffurfio Maethu Cymru. Er ein bod yn rhan o un tîm mawr, rydyn ni’n dod o gefndiroedd gwahanol ac mae gan bob un ohonom set unigryw o sgiliau a thalentau – yn union fel ein teulu amrywiol o ofalwyr maeth.
ein cenhadaeth
Rydyn ni’n bodoli er mwyn sicrhau dyfodol gwell a mwy disglair i blant lleol.
Yn ei hanfod, mae ein cenhadaeth yn cynnwys dod i adnabod yr holl blant yn ein gofal, dod o hyd i’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw, a dod o hyd i deulu maeth sy’n cyfateb yn berffaith iddyn nhw. Teulu a fydd yn eu galluogi i ffynnu.
Dydyn ni ddim yn anwybyddu’r gorffennol, ond rydyn ni’n canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol. Gallwn ni ei lunio, gyda’ch help chi.
ein cefnogaeth
Mae cefnogi ein gofalwyr maeth ym mhob ffordd bosibl yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud.
Rydyn ni’n cynnig pob math o gefnogaeth ac arweiniad, o gyfleoedd hyfforddi hyblyg i ddim ond bod ar ben arall y ffôn. Rydyn ni yma, pryd bynnag y gallech fod ein hangen ni.
Rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad, yn ystod pob cam o’r daith faethu. O’r tro cyntaf, rydych chi’n cysylltu â’n tîm i pan fyddwch chi’n ofalwr maeth profiadol, rydyn ni yma. Yn ateb cwestiynau, yn dathlu buddugoliaethau bach gyda chi, ac yn eich helpu i dyfu.
Mae sgiliau ac arbenigedd pob aelod o dîm Maethu Cymru Casnewydd ar gael i chi, ynghyd â gweithwyr cymdeithasol profiadol sydd wedi’u hyfforddi. Rydych chi’n rhan o’n tîm, ac rydyn ni’n rhan o hyn gyda’n gilydd.
ein ffyrdd o weithio
Rydyn ni’n ymwybodol o werth cyfathrebu. Dydyn ni ddim yn sefydliad pell i ffwrdd – rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad.
Rydyn ni’n rhan o’ch cymuned, ac mae hyn yn golygu bod gennych chi rywun wrth law i siarad â nhw ac i ddibynnu arnyn nhw.
eich dewis
Dydy penderfynu bod yn ofalwr maeth ddim yn benderfyniad sy’n cael ei wneud yn ysgafn. Y rheswm am hynny yw am ei fod yn newid bywyd – rydych chi’n croesawu rhywun i’ch cartref, ac i’ch teulu. Rydych chi’n ymgymryd â’r rôl o wrando. Gofalu. Bod yno – cyhyd ag y bydd ar rywun eich angen chi.
Yn ystod pob cam o’ch taith faethu, chi biau’r dewis. Ein rôl ni fel tîm maethu eich Awdurdod Lleol yw gwneud yn siŵr bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i benderfynu beth sy’n iawn i chi.
Os ydych chi’n dewis ymuno â’n tîm, byddwch chi’n rhan o gymuned o’r un anian a fydd yn eich cefnogi ac yn rhoi hwb i chi. Siaradwch â ni heddiw a chymryd y cam cyntaf ar eich taith faethu.