sut mae'n gweithio
y broses
y broses
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gysylltu â ni? O’r eiliad rydych chi’n penderfynu dod yn ofalwr maeth i gael eich paru â’ch plentyn maeth cyntaf, dyma beth allwch chi ei ddisgwyl.
y cam cyntaf
Efallai ei fod yn swnio’n syml, ond y cam cyntaf tuag at ddod yn ofalwr maeth yw cysylltu â thîm Maethu Cymru Casnewydd.
Gallai fod drwy ffonio, anfon e-bost neu lenwi’r ffurflen gyswllt isod. Pa bynnag ddull y byddwch yn ei ddewis, unwaith y byddwch yn cysylltu â ni, byddwn yn bwrw iddi gyda’ch cais i fod yn ofalwr maeth.
Byddwn yn cymryd yr holl fanylion hanfodol yn gyntaf – fel eich enw a’ch cyfeiriad – er mwyn i ni allu dechrau creu darlun o bwy ydych chi a sut gallai maethu fod yn rhan o’ch bywyd. Yn ystod y cam hwn, byddwn yn anfon ein pecyn gwybodaeth atoch, a fydd yn rhoi gwell syniad i chi o bopeth y mae maethu yn ei olygu.
yr ymweliad cartref
Ar ôl ein sgwrs gychwynnol, byddwn yn trefnu i ymweld â chi gartref. Neu, os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn trefnu cyfarfod ar-lein yn lle hynny.
Mae maethu yn benderfyniad mawr, a byddwn yno i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi allu penderfynu ai maethu yw’r dewis iawn i chi a’ch teulu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, byddwn yn eu hateb hyd eithaf ein gallu – yn ystod y cam hwn a thrwy gydol y broses.
yr hyfforddiant
Byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu cwrs hyfforddi cyfeillgar ac anffurfiol, i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich rôl fel gofalwr maeth. Teitl yr hyfforddiant yw “Paratoi i Faethu”, neu weithiau, “Sgiliau Maethu”. Yma, byddwch yn gallu cwrdd â rhai o aelodau tîm Maethu Cymru Casnewydd a rhai o’n gofalwyr maeth.
“fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl wych rydyn ni bellach yn eu hystyried yn ffrindiau ac rydyn ni’n helpu ac yn cefnogi ein gilydd pan fydd angen hynny arnon ni”
yr asesiad
Byddwch yn gweithio gyda gweithiwr cymdeithasol cymwysedig a phrofiadol a fydd yn mynd drwy eich asesiad maethu. Bydd yn dod i’ch adnabod chi a phopeth sy’n bwysig i chi, o deulu a ffrindiau i hobïau a phrofiadau bywyd.
Dydy’r asesiad ddim yn brawf – yn hytrach, mae’n gyfle i gael gwybod beth sy’n eich gwneud yn unigryw, a pha fathau o rinweddau sydd gennych a fydd o fudd i rôl y gofalwr maeth.
Yn yr asesiad rydyn ni’n gweld sut beth fyddai eich teulu maeth, pa fath o ofal rydych chi’n fwyaf addas ar ei gyfer a beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio eich sgiliau unigryw.
y panel
Mae’r wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu drwy’r broses asesu yn cael ei rhannu â phanel sy’n gallu gwneud argymhelliad i gymeradwyo eich cais.
Dydy’r panel ddim yno i gymeradwyo neu i wrthod eich cais – yn hytrach, mae aelodau’r panel yn defnyddio eu harbenigedd a phopeth maen nhw wedi dod i’w ddysgu amdanoch chi i helpu i ganfod y ffordd orau ymlaen.
Daw aelodau’r panel o bob cefndir ac maen nhw’n frwd dros ddarparu’r gwasanaeth maethu gorau posibl, sy’n cynnwys sicrhau bod y gefnogaeth i ofalwyr maeth gystal ag y gall fod. Maen nhw’n gweithio gyda chi i sicrhau bod eich taith yn cychwyn yn y ffordd orau bosibl, er mwyn eich paratoi ar gyfer y dyfodol.
y cytundeb gofal maeth
Ar ôl i chi gwrdd â’r panel ac ar ôl yr argymhellion, byddwn yn troi ein sylw at y cytundeb gofal maeth.
Dyma lle rydyn ni’n nodi popeth mae dod yn ofalwr maeth yn ei olygu. Mae’n cynnwys holl rannau bychan y rôl o ddydd i ddydd, fel amseroedd bwyd ac apwyntiadau meddygol, yn ogystal â chyfrifoldebau mwy. Mae’r cytundeb gofal maeth yn nodi beth rydych chi’n ei gael hefyd – rydyn ni’n addo eich cefnogi a’ch arwain hyd eithaf ein gallu, a’ch helpu i dyfu a symud ymlaen gyda hyfforddiant pwrpasol.