trosglwyddo i ni
dewiswch faethu cymru casnewydd
Maethu Cymru Casnewydd yw tîm maethu eich Awdurdod Lleol. Rydyn ni wedi ymrwymo i greu dyfodol gwell i blant a phobl ifanc ledled Casnewydd.
Rydyn ni’n rhan o dîm ehangach Maethu Cymru – y tîm cenedlaethol a asiantaethau maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, rydych chi eisoes yn rhan o Maethu Cymru.
Os ydych chi’n ofalwr maeth eisoes ond ddim yn maethu fel rhan o’ch Awdurdod Lleol, gallwch drosglwyddo atom ni.
manteision maethu gydag awdurdod lleol
Yn wahanol i asiantaeth faethu annibynnol, yma yn Maethu Cymru Casnewydd, fel rhan o’r Awdurdod Lleol, ni sy’n bennaf gyfrifol am yr holl blant yn ein hardal leol y mae angen gofal maeth arnyn nhw. Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i ddarparu lefel eithriadol o ofal a chefnogaeth.
Rydyn ni bob amser yn rhoi pobl o flaen elw, ac rydyn ni’n blaenoriaethu cadw plant yn y cymunedau lleol maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru. Gallwn wneud hyn oherwydd, fel sefydliad nid-er-elw, mae’r holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn yn mynd tuag at y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu, a dim i unman arall.
Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth ac arweiniad rhagorol yn ogystal â phecyn cystadleuol o gyllid a manteision, felly byddwch yn gwybod y bydd eich rôl fel rhiant maeth yn llawn manteision a buddion.
yr hyn yr ydym yn ei gynnig ym maethu cymru casnewydd
- Lwfansau ariannol hael. Er enghraifft, ar hyn o bryd yng Nghasnewydd mae gennyn ni ofalwyr maeth sy’n derbyn £660 yr wythnos am faethu dau o blant 4 ac 8 oed. Darllenwch fwy am dâl i ofalwyr maeth yma.
- Men Who Care – grŵp sy’n cynnig cymorth gan gyfoedion ac sy’n rhan o’r pecyn cymorth ychwanegol
- Cymorth mentora gan ofalwyr maeth lleol profiadol
- Rhwydwaith cymorth hynod gysylltiedig i blant sy’n derbyn gofal sy’n profi anawster au mewn addysg
- Cyfarwyddyd, cefnogaeth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cefnogol (Mhyst) – dewis amgen effeithiol i ofal preswyl i blant sydd mewn gofal ag anghenion cymhleth iawn
- Tocynnau am ddim i gemau cartref Dreigiau Casnewydd yn Rodney Parade
- Mynedfa am ddim i’r gampfa a’r pwll nofio ar gyfer y teulu maethu cyfan
Darllenwch fwy am gefnogaeth a gwobrau yma.
"Edrychais i mewn i foeseg asiantaethau maethu masnachol. Unwaith roeddwn i wedi gwneud ychydig o ymchwil a sylweddoli bod arian y trethdalwr yn mynd i berchnogaeth breifat am elw, doedd hi ddim yn cymryd llawer o amser i mi benderfynu. "
-Angela, gofalwr maeth Casnewydd
Darllenwch y stori gyfan yma.
sut i drosglwyddo atom ni
Mae’r broses o drosglwyddo o’ch asiantaeth maethu bresennol i’r Awdurdod Lleol yn rhwydd.
Yn ein sgwrs gyntaf, byddwn yn trafod yn agored sut mae’r broses yn mynd i weithio i chi. Gan eich bod eisoes yn y byd maethu, bydd y broses yn un benodol i’ch amgylchiadau chi.
Rydym am wybod sut allwn ni eich cefnogi yn y ffordd orau yn y dyfodol, nodi unrhyw anghenion a sicrhau ein bod yn eich adnabod yn drylwyr ar gyfer paru yn y dyfodol, felly ym mhob un o’r camau isod, bydd y profiad yn unigryw i chi.
I wybod mwy, lawrlwythwch ein canllaw trosglwyddo sydd ar gael isod.
cael eich canllaw trosglwyddo
Cliciwch ar y botwm isod i dderbyn canllaw ‘Trosglwyddo atom Ni’ sy’n cynnwys mwy o wybodaeth am fanteision trosglwyddo atom ni, sut mae’r broses yn gweithio a pham ddylech chi drosglwyddo at Faethu Cymru Casnewydd.
- lawrlwytho'r llyfryn 'Trosglwyddo i Ni' lawrlwytho
gadewch i ni siarad am drosglwyddo i faethu cymru casnewydd
Canolfan Ddinesig, Casnewydd, De Cymru, NP20 4UR Call 01633 210272Email fostering@newport.gov.uk