stori

Darren a Rhia

Mae Darren a Rhia wedi bod yn siarad am faethu ers blynyddoedd fel un o’r pethau roedden nhw eisiau ei wneud ryw ddydd.

“Ry’n ni wedi bod yn mynd trwy ein heriau yn ceisio cael plant, felly fe benderfynon ni newid y drefn ro’n ni’n ei rhagweld ar gyfer ein bywyd.”

Fe wnaeth y pandemig Covid-19 a’r cyfnod clo iddyn nhw ailwerthuso eu bywydau a sylweddoli bod rhywbeth ar goll.

“Fe benderfynon ni, dydyn ni ddim yn mynd yn iau, felly nawr amdani, cyn i ni fynd i rigol a cholli’r cyfle.

Ro’n ni’n teimlo bod ‘da ni lawer o gariad i’w roi ac y bydden ni’n addas.”

Cyn maethu roedd Rhia yn gweithio mewn addysg, felly “roedd ganddi ddawn naturiol i greu perthynas hwyl gyda phlant.” Penderfynodd adael ei swydd ac ymrwymo ei bywyd i faethu llawn-amser.


Y penderfyniad mawr

Roedd Darren a Rhia yn teimlo bod y gefnogaeth gan deuluoedd ar y ddwy ochr wedi helpu i wneud y penderfyniad yn haws. 

“Gyda chefnogaeth estynedig ein teulu, ry’n ni’n teimlo y y gallen ni gynnig cartref diogel a chariadus i blant sydd ddim falle wedi cael dechrau mor ffodus mewn bywyd â ni.”

“Gwnaeth hefyd helpu bod ein ffrindiau agos wedi dechrau maethu flwyddyn yn ôl, felly roedd ‘da ni syniad da o’r hyn roedd yn ei olygu a sut roedd y broses yn gweithio, a wnaeth bopeth yn gliriach yn sicr.”

Gwneud gwahaniaeth

I Darren a Rhia, roedd maethu’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth, agor eu drysau, ac agor eu hunain i helpu plentyn sydd ei angen.

“Mae’n dal yn ormod i ni feddwl am beth mae’r plant ‘na wedi bod trwyddo. Maen nhw wedi cael eu cymryd i ffwrdd o’r holl bobl maen nhw’n eu nabod a’u caru a’u gosod gyda dieithriaid llwyr. Felly mae’n rhaid i ni werthfawrogi’r newid aruthrol maen nhw wedi bod trwyddo ac yn parhau i fynd trwyddo.”

“Ry’n ni’n ceisio rhoi’r dechrau sefydlog, diogel a hwyl ‘na iddyn nhw mewn bywyd fel maen nhw’n ei haeddu.”

“Beth sydd ‘da chi i’w golli?”

Mae’n ymwneud â chymuned a phobl sy’n eich cefnogi chi yn eich taith faethu.  Mae ‘na lawer o fythau am faethu a all wneud i chi oedi cyn cymryd y cam cyntaf hwn.

“Ry’n ni wedi canfod bod y rhwydwaith maethu yn hynod gefnogol ac agos-atoch, felly estynnwch allan a chwalwch unrhyw amheuon sydd ‘da chi.”

“Does dim dau leoliad yr un fath, a pho fwyaf ry’ch chi’n siarad â phobl sydd wedi profi maethu ac arbenigwyr, y mwyaf cyflawn fydd eich barn.” 

“Os ydych chi eisiau cael blas ar bethau, mae wastad yr opsiwn o ddechrau fel gofalwr maeth seibiant i weld ai dyma’r peth i chi.”

“Siaradwch â gofalwyr maeth eraill a’ch holl ffrindiau a’ch teulu i gadarnhau ac atgyfnerthu eich uchelgeisiau.” 

Am ddechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw’r stori hon o ysbrydoliaeth, cariad a chymuned yn gwneud i chi feddwl y gallech chi wneud yr un peth, rydych chi siŵr o fod yn iawn! I gael gwybodaeth am sut i gychwyn arni, siaradwch â ni.

Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch