stori

Lucy a Lee

Roedd Lucy a Lee wedi bod yn maethu plant ifanc yng Nghasnewydd am dros 6 mlynedd cyn iddyn nhw benderfynu gofalu am ffoadur ifanc a oedd yn ceisio lloches. Mae ganddyn nhw 4 o blant eu hunain ac mae’r ddau yn gweithio.
Cawsom gyfle i siarad â nhw am eu taith faethu anhygoel. 
Gall eich ysbrydoli i gynnig cariad a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn eich ardal leol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau.


Sut brofiad yw maethu gyda Maethu Cymru Casnewydd?

Mae maethu i Gyngor Casnewydd wedi bod yn wych, ac mae gweithio gyda’r tîm gofal cymdeithasol i ni wedi yn brofiad hawdd. 

Pam wnaethoch chi benderfynu maethu gyda’ch Awdurdod Lleol ac nid asiantaeth?

Mae’r cyngor yn ymatebwyr cyntaf ac roedden ni eisiau helpu plant lleol.  Roeddem hefyd o’r farn na ddylai derbyn incwm ar gyfer ein gwasanaethau maethu fod ar draul ariannol i’r cyngor felly doedd gweithio i sefydliad ‘er elw’ ddim i ni. 

Beth oedd yr her fwyaf pan ddechreuoch chi eich taith faethu?

Addasu o fewn ein teulu ein hunain a chydbwyso’r lefelau cywir o sylw rhwng ein plant genedigol a’n plant maeth. Dysgu’r system, yr ydych chi’n rhan ohono, dyw e ddim yn dod gyda llawlyfr felly wrth i chi gasglu profiad o weithio gyda’r gwahanol asiantaethau byddwch yn dod yn llawer mwy hyderus. 

Ers pryd ydych wedi bod yn maethu a beth wnaeth i chi faethu?

Rydym wedi maethu gyda Chyngor Casnewydd ers tua 8 mlynedd.  Fe aethon ni i faethu gan ein bod yn teimlo y gallen ni gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant.  Nid yw pawb yn cael dechrau teilwng i fywyd, ac roeddem yn teimlo bod gennym le yn ein bywydau i sicrhau newid cadarnhaol i berson ifanc.  Mae Lucy a minnau’n dod o gefndiroedd plentyndod gwahanol ac wedi magu 4 plentyn o’u geni roeddem yn teimlo bod y gallu gennym i helpu ymhellach. Mae cynnig llwybr at gyflawni ei botensial i berson ifanc a bod yn berson da mewn cymdeithas yn golygu llawer i ni. 

Sut beth oedd y broses i chi?

Liz oedd ein haseswr maethu. Byddai’n ymweld â’n teulu ar gyfer trafodaethau grŵp ond hefyd i ymchwilio i’n perthnasoedd teuluol agos. Cwblhaodd gyfweliadau unigol i ddysgu popeth am ein teuluoedd ein hunain a magwraeth plentyndod.  Ar ôl sawl mis o weithio gyda Liz fe arweiniodd hyn at ei hadroddiad asesu terfynol a’i hargymhelliad. Mae’r asesiad yma a’ch gwiriadau meddygol wedyn yn cael eu cyflwyno i banel yng Nghyngor Casnewydd rydych chi’n eu cyfarfod yn bersonol yn yr asesiad cyntaf.  Fe ofynnon nhw ambell gwestiwn treiddgar i archwilio ein cymhellion ac yna cawsom ein cymeradwyo.

A oes gennych chi unrhyw beth rydych yn ei ffafrio o ran maethu?

Fe adawon ni Gyngor Casnewydd i benderfynu ar hyn a chael ein harwain gan y gweithwyr proffesiynol am yr hyn roedden nhw’n meddwl fyddai’n paru â ni ac â’n cartref teuluol.

Felly, sut oedd eich profiad maethu cyntaf?

Cawsom ddau fachgen, dau frawd. Roedd un yn 5 oed ar y pryd, a’r llall yn 3. 
Roedd un yn ddyn ifanc tawel iawn gyda gydag awydd i ddysgu, ond tawedog iawn, roedd ei frawd iau yn brysur iawn a wastad yn awyddus i chwarae. 

Ein tasg ni oedd gofalu am y plant, gwneud yn siŵr bod yr holl anghenion o ddydd i ddydd yn cael eu diwallu a’u bod yn mynychu’r ysgol.  Bydden ni hefyd yn cwrdd â rhieni yn y ganolfan deulu ychydig o weithiau’r wythnos.  Roeddem yn cadw dyddiadur o gynnydd y plant i’r gweithwyr cymdeithasol a’u rhieni.  Roedden ni’n canolbwyntio ar weithio gyda’r plant i wneud yn siŵr eu bod nhw’n setlo’n dda gyda ni.  Treulion ni lawer o amser mewn canolfannau chwarae a gwneud gweithgareddau crefft amrywiol gan gynnwys ein plant genedigol hefyd. Ni chawsant eu trin yn wahanol a chawsant yr un lefel o anogaeth a gwobrwyo. Fe ddysgon ni lawer ynglŷn â’r hyn sydd gan weithwyr cymdeithasol i’w gyflawni a’r llinell dynn maen nhw’n ei cherdded.  Roedd ein gweithiwr cymdeithasol yn wych o ran cyfathrebu, cyngor a chefnogaeth.

Mae’n rhaid ei fod yn deimlad da gweld y plant fel hyn ar ôl popeth maen nhw wedi bod trwyddo.

O yn bendant! Dysgu plant ifanc i fod yn bobl dda ac i roi dechrau da mewn bywyd rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n arwain at gymdeithas well a byddan nhw’n trosglwyddo’r sgiliau bywyd hyn i’r genhedlaeth nesaf. 

Beth oedd eich teimladau cyn i’r plentyn cyntaf gael ei osod gyda chi? 

Daeth ein lleoliad cyntaf yn fuan iawn ar ôl ein cymeradwyaeth. Roedden ni’n gyffrous i raddau ond hefyd yn ymwybodol o’r hyn y gallai’r person ifanc fod yn ei deimlo. Dim ond defnyddio eich barn orau allwch chi. Mae’r gweithwyr cymdeithasol wastad yna, ar WhatsApp, neu alwad ffôn i ffwrdd. 

Felly, sut ymagwedd sy’ gennych tuag at faethu? Oes unrhyw beth rydych yn ei wneud neu batrwm rydych yn ei ddilyn?

Yr hyn rydyn ni bob amser yn ei wneud pan fydd gennym berson newydd yn cyrraedd yw darparu strwythur a threfn wrth helpu’r person ifanc i ddod o hyd i’w lle yn y teulu.  Fe’u gwahoddir i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu helpu i gysylltu â ni.  Yn gyffredinol, rwy’n gweld fy mhlant fy hun fel y rhai sy’n iachau ac yn creu bondiau naturiol o’n blaenau.

Sut ydych chi’n teimlo pan mae plentyn yn gorfod gadael?

Bydd y rhan fwyaf o ofalwyr maeth yn mynd drwy emosiynau galarus pan fydd plentyn yn symud ymlaen, mae pob perthynas yn arbennig ac mae’n anodd ffarwelio.  Yr hyn sy’n rhaid i chi ei gadw mewn cof yw eich rôl a thrwy weithio gyda’r gweithwyr proffesiynol rydych chi’n helpu’r person ifanc i baratoi ar gyfer y bennod nesaf hon.  

Wnaethoch chi ddysgu maethu mewn unrhyw ffordd, drwy gyrsiau neu hyfforddiant, neu dim ond eich profiad?

Fel gofalwr maeth proffesiynol, mae angen i chi gwblhau rhywfaint o hyfforddiant gydol y flwyddyn, caiff hyn ei gynnig yn rhithiol a gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae yna gyrsiau i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ar bynciau sy’n ymwneud â datblygiad plant efallai y byddai gennych ddiddordeb ynddyn nhw. Anelu at wneud tua 15-20 o oriau. Unwaith y bydd eich person ifanc gyda chi yna byddwch yn dysgu beth yw disgwyliadau’r gweithiwr cymdeithasol yn gyflym a pha nodau a gytunwyd gennych. Byddwch yn cadw dyddiadur ac yn rhannu diweddariadau rheolaidd, ac efallai y bydd y rhain yn cael eu trafod er mwyn bod pawb yn deall.

Beth yw’r wobr fwyaf i chi am fod yn ofalwyr maeth?

Mae llawer o wobrau mewn maethu a bydd eich un chi yn unigryw i chi. Cyrraedd cerrig milltir efallai, yr hyg cyntaf neu’ch ymdeimlad o falchder yn dweud wrthych am yr effaith rydych chi’n ei chael. I ni ry’n ni wedi gweld plant yn mynd o fod yn swil a thawel i fod yn blant swnllyd, hapus llawn hwyl. Mae bob amser yn destun siarad gwych pan fo hynny’n digwydd.

fostering journey
Felly, ar ôl meithrin plant bach yn bennaf, pam wnaethoch chi benderfynu helpu person ifanc sy’n ceisio lloches? 

Ar y pryd hwnnw, doedden ni ddim wedi maethu ers ychydig fisoedd, gan ein bod fel arfer yn cymryd ychydig o seibiant rhwng lleoliadau. Fe wnaethon ni gytuno i helpu’r dyn ifanc hwn yn y tymor byr nes i’r gwasanaethau cymdeithasol ddod o hyd i le iddo yr wythnos ganlynol. Roedd y person ifanc yn agored i niwed a ddim yn siarad Saesneg. Dros y penwythnos fe wnaethom ei gefnogi a dechrau ymchwilio i’r hyn oedd ynghlwm â gofal maeth ar gyfer Plentyn Digwmni Sy’n Ceisio Lloches ar ei ben ei hun (UASC). Fe siaradon ni gyda’i weithiwr cymdeithasol i gael gwell dealltwriaeth ac o’r foment honno fe wnaethon ni ei dderbyn am gyfnod amhenodol.  

Felly sut aeth y dyddiau/wythnosau cyntaf?

Doedd gennym ni ddim llawer o brofiad gyda maethu pobl ifanc yn eu harddegau (heblaw am ein plant geni ein hunain) ac roedd hyn yn fwy cymhleth oherwydd y rhwystr iaith. Yn ystod yr wythnosau cyntaf fe wnaethon ni gyfarfod â gwahanol bobl ar-lein (oherwydd covid) a chyfieithydd. Aethon ni â’r person ifanc i siopa am iddo gyrraedd heb ddim! Buom yn gweithio gydag elusen Barnardo’s sydd ag arbenigwyr wrth law, ac maent yn neilltuo amser penodol i siarad gyda ni a gyda’r un sydd ar leoliad. Rydym yn ceisio sefydlu yn bennaf sut y cyrhaeddodd Gasnewydd a beth allai ei daith fod wedi ei olygu.

O fewn yr wythnosau cyntaf, cwrddon ni â gofalwyr maeth eraill gyda phlant o’r un wlad sy’n wych.  Fe wnaethom ei gofrestru ar gyfer gwersi Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng ngholeg Nash a darparu tocyn bws.

Beth oedd y sialens fwyaf o gefnogi’r ceisiwr lloches ifanc ar y cychwyn?

Rhwystr iaith yn gyntaf ac yna gofynion dietegol a sut mae hyn yn cysylltu ag arferion crefyddol. 

Dydy dod i adnabod rhywun pan nad yw’r naill na’r llall ohonoch chi’n siarad yr un iaith ddim mor frawychus ag y byddech chi’n ei feddwl. Mae cyfieithydd ar gael i chi, ond nid yw hyn yn ymarferol drwy’r amser, felly gwelsom hwyl y ddwy ffordd wrth ddefnyddio beiro a phapur ac Ap cyfieithu.

Wrth i’r berthynas ddatblygu rydych chi’n dysgu’n naturiol am eu hanes, a dylai hyn gael ei gofnodi a’i rannu gyda’r gweithiwr cymdeithasol.  Yn y pen draw, rydych chi’n dysgu am eu taith i’r DU, a gall hyn helpu i gefnogi eu cais i aros.  Nid yw hyn yn broses gyflym ac weithiau gall fod yn heriol.  Fel gyda maethu plant lleol, mae plant yn rhannu mwy wrth iddyn nhw ddod yn fwy cyfforddus gyda chi. Yn ein profiad ni mae coginio bwyd yn boblogaidd ac fe wnaethon ni wir fwynhau paratoi prydau traddodiadol o’u gwledydd cartref.  

O ran y broses loches mae rhai camau allweddol y mae angen i chi sicrhau eu bod yn digwydd, ond bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn rhoi arweiniad. Yn y pen draw, mae eich gwaith caled wrth ddysgu am daith eich plentyn i’r DU a pham nad yw’n gallu dychwelyd adref yn cael ei ddogfennu a’i anfon i’r llywodraeth i’w asesu. Unwaith y bydd y ddogfennaeth yn cael ei hadolygu mae’ch plentyn wedyn yn cael ei gyfweld gan adran fewnfudo’r DU i benderfynu a yw’n derbyn eu hawl 5 mlynedd i aros. Bydd eich plentyn neu berson ifanc yn bryderus yn y gwaith paratoi ac yn arwain at y cyfweliad hwn, a bydd angen llawer o gefnogaeth arno, a bydd yn ymwybodol nad yw pob un yn cael ei ganiatáu. Mae’n amser anodd iawn iddyn nhw ac i chi ond roedd canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau ar gyfer bod yn oedolyn yn ffordd dda o dynnu sylw.

Beth oeddech chi’n ei deimlo oedd eich prif nod wrth gefnogi eich person ifanc?

Roedden ni’n gwybod bod gennym ni 12-18 mis i’w baratoi i gael ei alltudio nôl adref o bosib, felly roedden ni eisiau sicrhau bod ganddo gymaint o sgiliau hunangynhaliol â phosib.  Fe wnaethon ni ei gefnogi wrth ei ddysgu sut i goginio’n ddiogel, golchi dillad, smwddio, siopa, hunan-ofal, yr holl bethau aeddfed hynny rydyn ni wedi’u dysgu ein hunain.

Fe wnaethon ni hefyd ei ddysgu sut i drefnu apwyntiad meddyg, sut i agor cyfrif banc, sut mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio ac unrhyw beth am sut i fyw yng Nghymru.

Mae angen i ni sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cael y cyfle gorau posibl i gyflawni eu potensial yma neu rywle arall.  Mae gosod y sylfaen hon i gael bywyd llwyddiannus da yn bwysig i ni. 

Fyddech chi’n helpu ffoadur ifanc eto?   Beth ydych chi’n ei teimlo roddodd y profiad hwn i chi?

Byddem! Yn bendant. Mewn gwirionedd, rydyn ni newydd ddarganfod ein bod ni’n mynd i gyflenwi dros rywun arall dros y Nadolig. Rydyn ni nawr yn mynd i ddysgu popeth am ddiwylliant Iran!  Bydd yn ddiddorol ac yn hwyl.  Rydym eisoes wedi cael rhai awgrymiadau am ddeiet a siopa am fwyd Halal.

Mae ffoaduriaid ifanc yn rhoi profiad gwahanol i chi wrth faethu.  Pan rydych chi’n maethu plant lleol yn gyffredinol mae hynny oherwydd materion teuluol ac yn eithaf cymhleth. Mae meithrin ffoadur yn rhoi llwybr clir a nod clir yn y pen draw i chi. Pan fydd gennych chi berson ifanc o wlad arall, mae angen i chi agor eich llygaid i faterion llawer mwy byd-eang a bod yn gallu derbyn crefyddau ac ymddygiadau diwylliannol newydd. Bydd eich person ifanc yn dod o wlad wahanol iawn heb unrhyw system addysg o bosib a methu darllen nac ysgrifennu.  Roedden ni’n gweld y dysgu’n werth chweil, a gweld plentyn yn dysgu ein diwylliant ni. Mae’n bendant yn rhyw fath o stryd ddwy ffordd, yn hytrach na dim ond y cyswllt meithringar, emosiynol sydd gennych gyda phlant iau a lleol. Byddwn yn bendant yn parhau i faethu gyda Chyngor Casnewydd.

Felly, wrth i ni agosáu at y Nadolig, dwedwch sut rydych chi’n trin achlysuron a gwyliau arbennig pan fyddwch chi’n cefnogi person ifanc o ddiwylliant gwahanol?

Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i ddysgu am y dyddiau diwylliannol arbennig maen nhw’n eu dathlu. Yn Asia byddai amlen goch gennych lle byddech chi’n rhoi arian ynddo, byddai gennych gacen, a ffrwythau fel arddangosfa o lwyddiant ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ar gyfer y Nadolig rydym yn ei drin yn union yr un fath ag unrhyw blentyn arall yn ein tŷ ni; byddai’n cael anrhegion, rydym yn chwarae llawer o gemau, yn ymuno ar ymweliadau teuluol a theithiau allan.

Byddai’n dysgu ein hiaith ac yn rhyngweithio, ac rydym yn credu ei fod wedi ei mwynhau’n fawr.  Mae gan ein plant genedigol y gallu hwn i ymuniaethu â phlant eraill a dod â nhw allan o’u cregyn i ddangos mwy o’u personoliaeth. Roedd Barnardo’s yn dda iawn hefyd; anfonon nhw becyn bach ato ac fe wnaethon ni hefyd ei gyflwyno i eglwys Gatholig ar-lein (oherwydd Covid19).  

Sut fyddech chi’n herio’r credoau poblogaidd am bobl ifanc sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain?

Gydag addysg, gwybodaeth ac argymell peidio â darllen y tabloids, gan eu bod wastad yn tynnu sylw at ochr negyddol teithiau lloches. Mae’r ofnau sydd gan bobl yn fwy o fytholeg a sibrydion nag yw o wirionedd a ffeithiau.

Ymysg y nifer o bobl sy’n dod i mewn i’r wlad hon mae yna bobl sy’n agored iawn i niwed sydd ar goll yma, heb rieni neu wedi colli eu rhieni ar eu taith yma, dim gallu i gyfathrebu a nunlle i fyw. 

Mae ganddyn nhw ddisgwyliadau ffug am ddod i’r DU ac ni fydd y rhan fwyaf o’r plant yn deall y system nac â’r gallu i’w ddeall chwaith.


Beth fyddai eich cyngor chi i rywun sy’n ystyried maethu ffoadur ifanc?

Byddwch â meddwl agored, ymunwch â gofalwyr maeth eraill sy’n gofalu am ffoaduriaid ifanc.  Ymgysylltwch â Barnardo’s a dysgwch am y diwylliant y daw eich person ifanc ohono.

Byddwch yn ffynhonnell arweiniad a chefnogaeth iddynt. Does dim rhaid i chi wneud popeth drostyn nhw.  Fe wnaethon ni gyflwyno ein person ifanc i’r system fysiau a’r gampfa leol.    Yn ein barn ni rydym fel gofalwyr maeth yn warcheidwaid iddo ac rydym am ei helpu i ddod yn annibynnol.  Dwi’n meddwl ei fod o hefyd yn helpu llawer i fod yn chwilfrydig ac yn ymholgar os ydych chi’n ystyried helpu ffoaduriaid ifanc. Rydyn ni wrth ein boddau yn teithio, rydyn ni’n hoffi gweld diwylliannau newydd ac yn mwynhau darganfod mwy am y diwylliannau gwahanol iawn hynny i’n diwylliant ni, felly mae wedi bod yn ffit da i ni.

Mae cael plentyn o wlad arall yn gyfle newydd diddorol, a chyffrous i chi.  Mae’n gallu bod yn frawychus, ond mae ‘na adnoddau gwych allan yna, peidiwch â bod ofn. Y cyngor gorau yw dod yn ffrindiau â gofalwyr eraill, pob cwestiwn sydd gennych, bydd rhywun arall wedi ei ofyn, felly mae atebion ar gael. Pob lwc! Mae ‘na lot ohonom ni yn lleol, yn barod i roi unrhyw help, i dawelu’ch meddwl a rhoi’r cyngor sydd ei angen arnoch chi.


Ydych chi’n barod i agor eich cartref a’ch calon i ffoaduriaid ifanc agored i niwed a’u harwain at ddyfodol gwell a mwy disglair? Rydyn ni am glywed gennych!

Os ydych chi’n byw yng Nghasnewydd, danfonwch neges atom, a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y gallwn. Fel arall, gallwch ein ffonio ar 01633 210272 i gael sgwrs gyfeillgar heb unrhyw rwymedigaeth arnoch.

Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen am faethu a manylion cyswllt y gwasanaeth maethu yn eich  awdurdod lleol.

Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned leol, sy’n rhoi budd gorau plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch