stori

Neil a Val

Mae’r tîm gŵr a gwraig Neil a Val wedi bod yn maethu brawd a chwaer ers y tair blynedd diwethaf. Maen nhw’n byw yng Nghasnewydd gyda’u ci, Alfie.

y teulu maeth

Roedd Neil a Val bob amser am faethu brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd. Roedden nhw’n hyderus y gallen nhw gynnig y cartref sefydlog a chariadus sydd ei angen ar blant i ffynnu. Maen nhw’n gofalu am frawd a chwaer, sydd â brodyr a chwiorydd eraill gerllaw yng Nghasnewydd.

“Roedden ni eisiau gallu cadw’r plant yma gyda’i gilydd a’u helpu gyda’i gilydd. Mae eu brodyr a’u chwiorydd mewn gofal maeth gerllaw, ac rydyn ni’n aml yn cwrdd â nhw a’u teuluoedd maeth fel y gallant weld ei gilydd ac aros mewn cysylltiad.”

“rydyn ni mewn sefyllfa i helpu’r plant hyn a gwneud gwahaniaeth i’w bywydau”
Roedd profiad Neil fel athro ysgol gynradd, ynghyd â chariad y cwpl at yr awyr agored, yn golygu eu bod yn teimlo bod ganddyn nhw lawer i’w gynnig i blant maeth.

“Mae gennym gartref cynnes, cariadus a sefydlog i’w gynnig ac rydyn ni yn y sefyllfa i allu helpu’r plant hyn, i roi profiadau newydd iddyn nhw ac i wneud gwahaniaeth i’w bywydau.”

Mae eu plant maeth yn elwa o bob math o hwyl ac anturiaethau, ac yn gwybod bod ganddyn nhw gartref diogel gyda Neil a Val.

“Rydyn ni’n treulio llawer o’n hamser yn yr awyr agored gyda’r plant. Rydyn ni wedi syrffio gyda nhw, a beicio a mynd ar wibgerti, ac mae’n wych eu gweld yn magu’r hyder i roi cynnig ar bethau newydd.”

“mae maethu i mi yn rhywbeth arbennig”

Mae Neil a Val wedi mwynhau dod yn rhan o’r gymuned faeth, gan gymryd yr amser i ddod i adnabod gofalwyr maeth eraill sy’n byw yn yr un ardal, yn ogystal â’n timau cymorth ein hunain.

“Wrth gwrs, fel unrhyw deulu, mae yna gyfnodau anodd hefyd, ond rydyn ni’n gwybod bod tîm maethu awdurdod lleol Casnewydd wrth law i’n cefnogi pan fydd angen cefnogaeth arnon ni. Nhw yw sy’n rhoi’r hyder i ni ddal ati. Mae’n braf gwybod nad ydyn ni byth ar ein pennau ein hunain.”

Rydyn ni gyda chi a’ch teulu maeth – ar bob cam o’ch taith. Mae ein tîm bob amser wrth law i gynnig cymorth i chi pan fydd ei angen arnoch.

“pan dwi’n gweld nhw’n gwenu, dwi’n gwybod mai dyma pam rydyn ni’n gwneud hyn”

Mae Neil a Val yn rhoi hyder, cefnogaeth a phob math o ofal i’w plant maeth. Maen nhw’n gweld y gwahaniaeth mae hyn yn ei wneud bob dydd.

“Mae maethu i mi yn rhywbeth arbennig. Mae bod yno 24/7 iddyn nhw, yn gorfforol ac yn emosiynol, a’u gwylio’n tyfu’n bobl ifanc hyderus – wel, does dim teimlad tebyg.

Nid yw’n ymwneud â rhoi cartref yn unig – mae’n ymwneud â dangos cariad ac ymrwymiad.

“Rydyn ni’n helpu i ddatblygu eu hunan-barch, gan eu helpu i wireddu eu breuddwydion a’u nodau, a rhoi gobaith iddyn nhw ar gyfer y dyfodol. Pan dwi’n gweld nhw’n gwenu gyda’i gilydd – dwi’n gwybod mai dyma pam rydyn ni’n gwneud hyn.”

Mae Neil a Val yn gweithio fel rhan o’n tîm ehangach gyda’n gofalwyr ymroddedig, gan roi anghenion eu plant maeth yn gyntaf ym mhopeth rydyn ni’n gweithio tuag ato.

am ddechrau eich taith faethu eich hun?

Os yw darllen stori Neil a Val wedi eich ysbrydoli i ddechrau eich taith faethu eich hun, byddem wrth ein boddau o glywed gennych. Cysylltwch â ni heddiw, a gadewch i ni ddechrau arni:

am ddysgu mwy?

Dysgwch fwy am faethu a beth y gallai ei olygu i chi. Mae ein straeon llwyddiant maethu yn seiliedig ar brofiadau go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maen nhw’n rhoi gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch