blog

Pethau i’w gwneud gyda’r plant yng Nghasnewydd yr hanner tymor mis Chwefror hwn

Pethau i’w gwneud gyda’r plant yng Nghasnewydd yr hanner tymor mis Chwefror hwn

Pethau i’w gwneud gyda’r plant yng Nghasnewydd yr hanner tymor mis Chwefror hwn. Canfod beth sydd ar gael ar gyfer plant yng Nghasnewydd yr hanner tymor mis Chwefror hwn.

Gyda’r plant bant o’r ysgol, nid yw bob amser yn rhwydd i’w diddanu, heb fynd i gostau mawr. Felly rydym wedi dod o hyd i lawer o hwyl cyfeillgar i’r teulu fydd ar gael yng Nghasnewydd yn hanner tymor mis Chwefror 2022 y bydd y plant – a’ch poced chithau – wrth eu bodd.

Tŷ Tredegar

Bydd y tŷ a’r gerddi yn ailagor mewn pryd ar gyfer hanner tymor mis Chwefror 2022. Bydd ganddynt weithgareddau tymhorol yn barod am wythnos lawn hwyl, yn cynnwys dalenni gweithgaredd ’50 Peth i’w gwneud cyn i chi fod yn 113/4’.  Bydd caffe The Brewhouse hefyd yn gweini eu danteithion blaenorol, a bydd y siop lyfrau ar agor gyda thrysorau llenyddol i chi ddod o hyd iddynt.

Mae ffioedd mynediad ar gyfer y tŷ a’r gerddi. Gellir ymchwilio’r parc yn rhad ac am ddim.

I ganfod mwy ewch i: 2022 yn Nhŷ Tredegar | Casnewydd, De Cymru | Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Parc Belle Vue

Treuliwch brynhawn gyda’r plant yn y parc Fictoraidd deniadol yng Nghasnewydd. Mae’n lle hyfryd i fynd am dro gyda gerddi godidog, lawntiau a choetir i’w hymchwilio, ardal chwarae boblogaidd i blant, cyrtiau tennis a chaffe ar gyfer danteithion.

Mae’n addas ar gyfer pob oed a’r rhan orau oll yw ei fod am ddim.

I gael mwy o wybodaeth ewch i: Parc Belle Vue | Cyngor Dinas Casnewydd

Pwll Rhanbarthol a Chanolfan Tenis

Mae’r pwll rhanbarthol a’r ganolfan tenis yn gartref i bwll nofio cystadleuaeth a’r unig ganolfan tenis dan do yn y rhanbarth. Mae rhywbeth i bawb yn y Ganolfan yn ystod hanner tymor mis Chwefror eleni, dewch i law neu ddisgleirio.

I gael mwy o wybodaeth ewch i: Regional Pool & Tennis Centre | Home of swimming and tennis in Newport (newportlive.co.uk)

Parc Fferm Cefn Mabli

Beth am ymweld â pharc fferm Cefn Mabli lle mae rhywbeth i bawb, o mini golff gwirion i go-cartiau rasio a reidiau ar gefn merlen. Mae hefyd daith trên newydd o amgylch y parc. Ar y fferm gall plant fwydo a chydio yn rhai o’r anifeiliaid neu redeg o amgylch yn yr ardal chwarae awyr agored.

Dan do, gall rhieni ymlacio yn y caffe gyda choffi a darn o deisen gartref tra bod y plant yn mwynhau chwarae meddal. Peidiwch anghofio galw heibio’r siop fferm cyn gadael.

I ganfod mwy ewch i: Am | Parc Fferm Cefn Mabli

Antur Bywyd Gwyllt

Os cewch eich hunan heb ddim i’w wneud ar ddiwrnod brafiach ym mis Chwefror, beth am fynd draw i warchodfa natur Casnewydd. Mae canolfan ymwelwyr Gwlypdir Casnewydd yn ddelfrydol ar gyfer plant a theuluoedd., Mae teithiau tywys a gweithgareddau i blant ar gael, gan annog teuluoedd i edrych yn agosach ar y warchodfa. Gellir mwynhau diodydd a thamaid i’w fwyta yn y caffe wedyn a pheidiwch anghofio pori yn y siop anrhegion.

Bydd plant wrth eu bodd bod mas gyda’r bywyd gwyllt ac mae’n debyg y byddant yn gadael y Gwlypdiroedd wedi dysgu rhywbeth newydd.

I gael mwy o wybodaeth ewch i: Gwarchodfa Natur Gwlypdiroedd Casnewydd – RSPB


From the Newport City Originals series of photographs by Nick Fowler. Newport, Gwent, South Wales.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch