blog

6 rheswm pam mae pobl eisiau bod yn ofalwyr maeth

Pam mae pobl eisiau bod yn ofalwyr maeth?

Gall dod yn rhiant maeth fod yn benderfyniad sy’n newid bywyd ac sy’n dod â boddhad mawr. Yng Nghymru, mae’r angen am rieni maeth yn cynyddu bob blwyddyn. Mae pob unigolyn sy’n penderfynu bod yn ofalwr maeth yn gwneud felly am resymau personol iawn ac unigryw.

Cawsom gyfle i siarad â rhai o’n gofalwyr maeth a rannodd eu profiadau a manteision maethu gan nodi’r 6 prif reswm pam mae pobl eisiau maethu. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn rhiant maeth, gall Maethu Cymru Casnewydd roi cymorth ac arweiniad ar eich taith. Cewch wybod a ydych yn bodloni’r gofynion i ddod yn ofalwr maeth a dysgu mwy am sut y gallwn helpu.

1. Cynnig cartref diogel a sefydlog i blant mewn angen.

Mae dod yn ofalwr maeth yn eich galluogi i gynnig amgylchedd cartref meithringar i blant sydd wedi profi anawsterau. Mae llawer o resymau pam na all plant fyw gyda’u teulu; gall fod oherwydd problemau y mae eu rhieni’n eu profi, fel salwch, anawsterau perthynas neu gamddefnyddio sylweddau. Gallwch roi gofal cariadus, gwerthoedd cadarnhaol ac ymdeimlad o ddiogelwch iddynt, a’u helpu i wella o’u profiadau trawmatig. 

“Mae’n deimlad gwych gwybod eich bod o bosibl yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn”, meddai un o’n gofalwyr maeth lleol. Ychwanegodd hefyd, “Does dim angen i chi fod yn arwr i wneud hynny, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw’r parodrwydd i agor eich calon i’r plentyn a bod yno iddo.”

Wrth wraidd maethu mae ymroddiad i wneud gwahaniaeth i fywydau plant. Weithiau gall eich cartref fod yn lloches i blentyn sydd angen gwely brys am noson; ar adegau eraill, gall ddod yn hafan ddiogel am gyfnod hirach – mis, blwyddyn neu sawl blwyddyn. Fel gofalwr maeth, rydych yn derbyn plentyn fel rhan o’ch teulu ac o bosibl yn newid cwrs ei fywyd. Dysgwch am y gwahanol fathau o faethu sydd ar gael.

2. Cael effaith gadarnhaol ar fywyd plentyn.

Gall maethu plentyn gael effaith gadarnhaol iawn ar ei fywyd. Trwy gynnig cariad, cymorth ac arweiniad, gallwch ei helpu i ddatblygu’n unigolyn hyderus a gwydn. 

“Mae’n wych gweld yr hyder maen nhw’n ei fagu. Maen nhw’n aml yn dechrau fel plant swil, ofnus ac ansicr. Ac yna ar ôl ychydig fisoedd, byddwch yn sylwi bod eu hyder wedi tyfu, ac maen nhw’n dechrau credu yn eu galluoedd. Mae’n bleser mawr gweld hyn yn digwydd.”

– gofalwr maeth awdurdod lleol

Mae gofal maeth yn eich galluogi i gael effaith ddwys ar fywyd plentyn drwy roi’r offer sydd eu hangen arno i ffynnu a llwyddo. Fel rhiant maeth, gallwch feithrin hyder, hunan-barch, ac ymdeimlad o berthyn a fydd yn aros gyda phlentyn am oes. 

Bydd eich tasgau fel gofalwr maeth yn amrywio yn dibynnu ar oedran y plentyn rydych yn ei faethu. Bydd angen mynd â phlant iau i’r ysgol a’u casglu o’r ysgol; bydd angen i chi drefnu amser ac adloniant teuluol, cynorthwyo gyda phopeth sydd ei angen ar blant yn ifanc, a’u meithrin a’u haddysgu.

Bydd angen eich doethineb, eich arweiniad a’ch cymorth ar blant hŷn a phobl ifanc. Byddwch yn helpu i’w paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn, a all gynnwys eu cynghori ar eu llwybr addysgol; sut i reoli arian a biliau, sut i goginio a golchi dillad, sut i ddelio ag emosiynau, a mwy. 

Waeth beth fo’u hoedran, eich rôl chi fydd credu ynddynt a bod yno iddynt.

“Mae angen i ni sicrhau bod y bobl ifanc hyn yn cael y cyfle gorau posibl i gyflawni eu potensial. Mae meithrin y sylfaen hon i gael bywyd llwyddiannus da yn bwysig i ni.” 

– Lee a Lucy, gofalwyr maeth awdurdod lleol Casnewydd

3. Dysgu a thyfu fel person.

Mae pobl eisiau bod yn ofalwyr maeth oherwydd gall fod yn brofiad hynod foddhaus a heriol sy’n addysgu sgiliau bywyd, fel amynedd, empathi a gwydnwch. Gall hefyd eich helpu i’ch deall chi eich hun a phobl eraill o’ch cwmpas yn well. 

Gall dod yn ofalwr maeth wella eich sgiliau cyfathrebu. Byddwch yn rhyngweithio ag unigolion amrywiol, fel gweithwyr cymdeithasol, athrawon, cyd-ofalwyr maeth, a rhieni biolegol. Trwy’r profiad hwn, gallwch wella eich gallu i gyfathrebu’n effeithiol, gwrando’n weithredol, a chynnig adborth adeiladol yn bwyllog.

Trwy faethu, byddwch yn dysgu sgiliau gwerthfawr o ran y gallu i addasu a datrys problemau. Bydd gan bob plentyn rydych yn ei groesawu i’ch cartref anghenion, personoliaethau ac ymddygiadau unigryw, sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi addasu eich dull gofalu yn unol â hynny. Bydd delio ag amrywiaeth o blant yn cyflwyno gwahanol heriau a fydd yn profi eich gallu i ddod o hyd i atebion creadigol i unrhyw broblemau a allai godi.

“Mae’n brofiad gostyngedig iawn, ac mae hefyd yn brofiad gwerth chweil.”

– gofalwr maeth awdurdod lleol

4.  Helpu i aduno teuluoedd.

Gall gofal maeth fod yn fesur byrdymor i gynorthwyo plant tra bod eu rhieni’n ymdrechu i sefydlu amgylchedd diogel ar eu cyfer. Fel rhiant maeth, gallwch chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi teuluoedd a chynorthwyo plant i ailuno â’u rhieni (os yw hyn er budd gorau’r plentyn).

Dywedodd ein gofalwr maeth lleol, “Dwi wedi gweld pobl ifanc yn dod mewn i fy ngofal ac yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, weithiau am gyfnod byr, weithiau am gyfnod hir, ac yn cael eu haduno gyda’u teuluoedd, ac mae hynny’n deimlad anhygoel.”

5. Ehangu eich teulu.

Mae maethu yn rhoi cyfle i dyfu eich teulu a chreu cysylltiadau parhaol â phlant nad ydynt efallai wedi cael amgylchedd cartref sefydlog fel arall. 

Gall hefyd fod yn brofiad gwych i’ch teulu. Wrth i chi groesawu plentyn neu berson ifanc newydd i’ch cartref, mae gennych chi ac aelodau o’ch teulu gyfle i ddatblygu perthynas agos gyda’r plentyn maeth. Yn ogystal, gall maethu ddod â’ch teulu yn agosach wrth i chi weithio gyda’ch gilydd i gefnogi’r plentyn maeth a gofalu amdano. 

Trwy faethu plentyn, gall eich teulu brofi amrywiaeth a gwahanol ddiwylliannau. Gall hyn ehangu persbectif eich teulu, ei helpu i gofleidio gwahaniaethau, a hyrwyddo derbyniad. Gall eich teulu hefyd ddysgu sgiliau pwysig fel empathi a dealltwriaeth. 

“Mae wedi bod yn ffordd wych o ehangu ein teulu, gan helpu plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial, ac mae hefyd yn fuddiol i’n teulu ni hefyd”.

“Mae gan ein plant biolegol y gallu hwn i uniaethu â phlant eraill a dod â nhw allan o’u cregyn i ddangos mwy o’u personoliaeth.”

Lee, gofalwr maeth awdurdod lleol Casnewydd

6. Gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Mae dod yn ofalwr maeth yn ffordd effeithiol o fodloni angen hanfodol yn eich cymuned a gwella lles plant a allai fel arall fod heb gartref diogel a chefnogol. Nid slogan ac ystrydeb yn unig yw “gwneud gwahaniaeth.” Mae gofalwyr maeth yn dod â gwerth anhygoel i’r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

Trwy faethu ar gyfer eich awdurdod lleol, rydych yn helpu i leihau nifer y plant sy’n cael eu lleoli mewn lleoliadau maeth masnachol. Pan fo plant yn cael eu lleoli mewn lleoliadau maeth masnachol preifat, maent yn fwy tebygol o gael eu lleoli y tu allan i’w hardal leol a’u gwahanu oddi wrth eu teulu, eu ffrindiau a’u cymuned. Trwy ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru, rydych yn helpu i gadw plant yn lleol ac mewn lleoliad teuluol. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’w lles a’u hymdeimlad o berthyn. Mae’r awdurdod lleol yn ddielw, yn wahanol i asiantaethau masnachol sy’n gwneud elw fel busnes.

Fel rhiant maeth, rydych hefyd yn cefnogi teuluoedd mewn argyfwng. Mae plant yn mynd i ofal maeth oherwydd bod eu teuluoedd yn cael anawsterau. Fel gofalwr maeth, rydych yn cynnig lle diogel i’w plant tra eu bod yn derbyn y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen i ailuno â’u plant.

Trwy faethu plant o’ch cymuned, rydych hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Fel gofalwr, rydych yn helpu plant i feithrin perthnasau iach, datblygu sgiliau ymdopi cadarnhaol, a meithrin sgiliau bywyd gwerthfawr. Pan fo plant yn ddiogel ac yn sefydlog, maent mewn sefyllfa well i ffynnu yn eu bywydau ac wedyn yn rhoi yn ôl i’w cymuned yn y dyfodol.

A allaf faethu plentyn yng Nghasnewydd?

Gall y gofynion ar gyfer maethu plentyn yng Nghymru amrywio ychydig yn dibynnu ar yr asiantaeth faethu benodol neu’ch awdurdod lleol. Fodd bynnag, yn gyffredinol, dylech fod yn gymwys i faethu plentyn os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • Rydych yn 21 oed neu’n hŷn.
  • Rydych yn gymwys i weithio a byw yn y DU.
  • Rydych yn gallu cynnig cartref diogel ac addas:

Rhaid i’r cartref y bydd y plentyn maeth yn byw ynddo fod yn ddiogel a bod â lle a chyfleusterau addas i’r plentyn maeth fyw’n gyfforddus. Bydd plentyn maeth angen ei ystafell wely ei hun; fodd bynnag, efallai y bydd brodyr a chwiorydd yn gallu rhannu’r ystafell wely yn dibynnu ar oedran a rhyw.

  • Rydych yn gorfforol ac yn emosiynol iach.

Rhaid i ofalwyr maeth fod yn gorfforol ac yn emosiynol iach i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi lles plentyn yn llawn. Fel rhan o’r asesiad maethu, byddwch yn cael gwiriad meddygol i wirio a ydych yn addas i faethu. Mae’n cael ei gynnal gan eich meddyg teulu ac mae’r adroddiad yn cael ei anfon at gynghorydd meddygol i gael ei farn ar eich iechyd corfforol a meddyliol. Os ydych yn ystyried dod yn ofalwr maeth, rydym yn eich cynghori i drafod unrhyw faterion iechyd gyda ni cyn gynted â phosibl.

  • Mae gennych gymeriad da a dim euogfarnau troseddol difrifol.

Ni ddylai gofalwyr maeth fod ag unrhyw droseddau sy’n eu hanghymwyso (er enghraifft, trosedd yn erbyn plant neu drosedd rywiol) a rhaid iddynt gyflwyno geirda personol o’r 5 mlynedd diwethaf.

Pa gymorth ydych chi’n ei dderbyn fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Casnewydd?

Ym Maethu Cymru, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi yn ystod eich taith faethu.  

1. Rydym yn cynnig yr holl gyfleoedd hyfforddi, dysgu a datblygu angenrheidiol i chi mewn ffordd hyblyg.

Gall hyfforddiant gynnwys pynciau fel cyfathrebu, rheoli ymddygiad heriol, ymlyniad, a gofal sy’n seiliedig ar drawma.

2. Rydym yn cynnig cymorth ariannol. 

Mae Maethu Cymru Casnewydd yn cynnig lwfans ariannol i dalu treuliau fel dillad, trafnidiaeth, ac arian poced i’r plentyn sydd yng ngofal y gofalwr maeth i dalu costau gofalu am blentyn neu berson ifanc. Rydym hefyd yn rhoi ffi faethu i’r gofalwr maeth.

3. Gallwch gael cynnig gofal seibiant byr

Gallwn drefnu gofal seibiant byr lle bo hynny’n briodol er mwyn rhoi seibiant rheolaidd i chi o’ch dyletswyddau gofalu. Gall hyn helpu i atal llosgi allan a sicrhau y gallwch roi gofal o ansawdd uchel i’ch plentyn maeth. 

4.  Rydym yn eich cysylltu â rhwydweithiau cymorth

Pan fyddwch yn maethu gyda ni, nid ydych chi byth yn teimlo’n unig. Rydym yn rhoi mynediad i chi at rwydweithiau cymorth i’ch helpu i gysylltu â gofalwyr maeth eraill a rhannu profiadau a chyngor. Bydd gennych fynediad at grwpiau cymorth a chymorth cyfoedion a chylchlythyrau rheolaidd a digwyddiadau cymdeithasol. Gall hyn fod yn arbennig o werthfawr pan fyddwch newydd ddechrau ar eich taith faethu.

5. Rydych yn derbyn cyswllt a goruchwyliaeth reolaidd

Bydd gennych weithiwr cymdeithasol sy’n eich goruchwylio yn ogystal â gweithiwr cymdeithasol plentyn sy’n aros mewn cysylltiad rheolaidd â chi. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn cwestiynau, i gael cyngor ac arweiniad, ac i dderbyn adborth a chymorth.

Dysgwch fwy am y cymorth a’r buddion i ofalwyr maeth yng Nghasnewydd. 

Allech chi faethu plentyn neu berson ifanc yng Nghasnewydd?

Os ydych yn byw yng Nghasnewydd, anfonwch neges atom, a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted ag y gallwn. Fel arall, gallwch ein ffonio ar 01633 210272 i gael sgwrs gyfeillgar heb unrhyw rwymedigaeth arnoch.

Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen am faethu a manylion cyswllt y gwasanaeth maethu yn eich awdurdod lleol.

Mae dewis Maethu Cymru yn benderfyniad i weithio gyda phobl go iawn yn eich cymuned leol, sy’n rhoi budd gorau plant wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch