Sut bydd maethu yn effeithio ar fy nheulu?
Dyma ferched gofalwyr maeth, Hannah a Lucy yn rhannu eu stori
Sut bydd maethu yn effeithio ar fy nheulu? Mae llawer o bobl sy’n ystyried maethu yn poeni am sut y bydd yn effeithio ar eu teulu. A fydd eu plant yn gweld yn chwith am orfod rhannu eu cartref? Neu a fyddan nhw’n teimlo eu bod wedi’u gadael allan neu rywsut yn annigonol? Ac wrth gwrs, mae’n iawn i rieni ystyried y pethau hyn oherwydd, wedi’r cyfan, mae plant biolegol yn chwarae rhan yr un mor bwysig o’r tîm gofal maeth â’u rhieni.
Felly yn Maethu Cymru Casnewydd credwn fod dod yn rhiant maeth yn ddewis rydych chi’n ei wneud gyda’ch anwyliaid. Mae’n ymwneud â thyfu eich uned deuluol drwy dderbyn plant i’ch cartref. Eu cefnogi. Gofalu amdanynt. Mae eich teulu’n cymryd rhan ar bob cam ac yn cynnig y cymorth a’r gofal hwn hefyd.
Gan fod maethu’n ymwneud â chysylltiad a chymuned. Nid yw’n rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun – rydych chi’n gwneud hyn gyda’ch gilydd, a byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd. Mae’r gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r gwobrau a gynigiwn yn gyfnewid am hynny yn cael eu cynnig i bob aelod o’ch cartref.
Felly gofynnwyd i Hannah, 12 oed a Lucy, 15 oed, merched gofalwyr maeth Casnewydd, rannu eu profiadau o fod yn rhan o deulu maeth.
Sut ydych chi’n teimlo am fod yn rhan o deulu sy’n maethu?
“Rwy’n teimlo ei fod yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono. Mae’n beth arbennig a gofalgar rydyn ni’n ei wneud fel teulu.”
Lucy
“Da gan ein bod ni’n cael cwrdd â phobl newydd ac mae’n brofiad newydd”.
Hannah
Allwch chi ddweud wrthym am bethau sy’n dda am fod yn rhan o deulu maeth?
“Mae’n werth chweil ac rydych chi’n helpu llawer o bobl; plant maeth, rhieni neu ofalwyr blaenorol a gwasanaethau cymdeithasol. Rydych chi wedi dewis croesawi plentyn i’ch cartref ni waeth pwy ydyw.”
Lucy
“Rwy’n cael helpu pobl ac mae’n hwyl”
Hannah
Allwch chi rannu unrhyw un o’r pethau anoddaf am fod yn rhan o deulu maethu?
“Mae’n cymryd amser i ddod i arfer ag ef, yn enwedig pan nad ydych wedi gwneud hynny o’r blaen ac ar adegau gall fod yn anodd.” Ychwanegodd Hannah “Mae’r tŷ yn gallu bod yn swnllyd iawn ac mae hynny’n gallu bod yn straen ar adegau.”
Lucy
Oes gennych chi unrhyw syniadau a allai helpu i wneud i’r pethau anodd deimlo’n well?
“Dysgu beth sydd ei angen/eisiau ar y plentyn a sut mae’n ymddwyn. Gall hyn helpu wrth ddelio ag e mewn cyfnod anodd.”
Lucy
Ydych chi’n teimlo eich bod yn cael eich cynnwys mewn trafodaethau am blant sy’n dod i fyw gyda chi a’ch teulu?
“Ydw, yn bendant, mae’n rhaid i deuluoedd maeth weithio gyda’i gilydd ac roedd fy rhieni’n deall hynny, a dyna pam eu bod yn cynnwys fy chwaer a minnau yn y trafodaethau am y plentyn sy’n derbyn gofal.”
Lucy
A oes unrhyw beth yr hoffech ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried maethu?
“Rwy’n credu bod maethu wedi gwella llawer o bethau’n ymwneud â fi a fy nheulu. Mae wedi dod â ni i gyd at ein gilydd ac wedi rhoi gwell rhagolygon i ni ar fywyd yn ei gyfanrwydd. Rwy’n credu ei fod yn gyfle gwych i ni ein hunain, yn ogystal â helpu eraill”.
Lucy