blog

Tia

Yng Nghasnewydd, mae llwyddiant maethu yn wahanol i bob person ifanc ond y prif gynhwysion yw cysylltiad, hapusrwydd a sefydlogrwydd.  Gwrandewch ar sut beth yw maethu mewn gwirionedd gan Tia, a brofodd yn uniongyrchol ymroddiad a chefnogaeth ein tîm anhygoel yn Maethu Cymru Casnewydd.

Pan oedd Tia yn 11 oed, cafodd hi a’i brodyr eu rhoi gyda theulu maeth, yn wreiddiol ar sail tymor byr.  Fodd bynnag, dechreuodd rhieni maeth Tia chwalu rhwystrau’n gyflym ac mae Tia wedi ffynnu gyda’u cariad a’u cefnogaeth.  Ymhen amser, newidiodd cynllun Tia ac mae hi wedi bod gyda’r un teulu maeth ers 5 mlynedd.

sut beth yw maethu yng nghasnewydd?

“Pan ddes i ofal maeth am y tro cyntaf, roeddwn i mor ofnus y byddai’n beth arall y gallai pobl fy nhrin yn wahanol yn ei gylch! Roedd bod yn berson ifanc yn tyfu i fyny yng ngofal maeth yn anodd ac yn frawychus iawn ar y dechrau ond helpodd fi i ddod o hyd i fi fy hun a sylweddoli nad oeddwn yn rhywun oedd yn gofalu am rywun arall yn unig ac yn gorfod poeni am beth roeddwn yn mynd i weld wrth ddeffro, dangosodd i mi ei fod yn iawn rhoi eich hun yn gyntaf. 

“Pan o’n i’n tyfu i fyny, fi oedd y ferch fach swil a thawel bob amser a fyddai’n dweud ‘na’ wrth bopeth, byddwn yn treulio fy holl amser gartref a dweud ‘na’ wrth unrhyw gyfle a fyddai’n golygu y byddwn o gwmpas llawer o bobl eraill.  

Bum mlynedd yn ddiweddarach ac rwyf wastad o gwmpas llawer o bobl, rwy’n ymwneud â’r theatr gyda fy mam faeth sydd wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â chymaint o bobl newydd sydd wedi datblygu fy hyder ond sydd hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi ddod yn agos iawn gyda fy mam faeth.

Ar adegau, gall gofal maeth fod yn anodd oherwydd gallwch gael eich trin fel nad ydych yn berson ifanc arferol, fel eich bod yn cael eich galw’n ‘blentyn sy’n derbyn gofal’ pan fydd pob plentyn yn derbyn gofal mewn gwirionedd.  Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn oherwydd roedd yn rhaid i chi adael gwersi ar gyfer y cyfarfodydd.  Byddai pobl yn gofyn pa fath o gyfarfodydd oedd yno a pham y bu’n rhaid i ni adael y dosbarth. 

Ar un adeg roeddwn yn siarad ag athro am fy arholiadau TGAU ac roeddem yn mynd drwy fy nghofnodion ysgol a daeth i’r amlwg eu bod yn rhoi ‘plentyn sy’n derbyn gofal’ fel angen ychwanegol. Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn delio â hyn ac achosodd ofid mawr oherwydd roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cael fy nhrin yn wahanol i bawb arall.

Tua thridiau yn ddiweddarach penderfynais fynd at bennaeth fy ysgol am y peth i’w wynebu a gofyn iddo pam fod derbyn gofal yn rhywbeth a’m gwnaeth yn wahanol i’r holl blant eraill, nid oedd ganddo unrhyw beth i’w ddweud.

Byddwn wrth fy modd yn gwneud gwahaniaeth o fewn y system i allu atal plant rhag gorfod cael eu galw’n ‘blant sy’n derbyn gofal’ ac er mwyn gallu gwneud i blant deimlo’n gyfartal â’r holl blant eraill.  Hoffwn hefyd sicrhau bod unrhyw ofalwyr maeth hirdymor neu fyrdymor yn gwybod bod yr hyn maen nhw’n ei wneud yn anhygoel!

Yn olaf, byddwn wrth fy modd yn ei gwneud yn glir i weithwyr cymdeithasol pa mor anhygoel ydynt a sut rwy’n eu canmol am eu hymdrechion anhygoel mewn swydd mor anodd.”

hoffech chi gychwyn ar eich taith faethu eich hun?

Os yw’r stori hon am ysbrydoliaeth, cariad a chymuned yn gwneud i chi feddwl y gallech chi wneud yr un peth, yna mae’n siŵr eich bod chi’n iawn! I gael gwybodaeth am sut i ddechrau arni, siaradwch â ni.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch