blog

4 Llyfr y mae angen i bob Gofalwr Maeth eu Darllen

4 Llyfr y mae angen i bob gofalwr maeth eu darllen ar Ddiwrnod y Llyfr

Dyma ddetholiad o lyfrau sydd wedi cael eu hargymell gan staff Maethu Cymru Casnewydd a gofalwyr maeth presennol.  Mae rhai yn straeon gan blant mewn gofal neu ofalwyr maeth, mae eraill yn gyngor ac yn arweiniad ar sut i gefnogi plant sy’n derbyn gofal.  Mae bob un ohonynt yn rhoi cipolwg gwych ar faethu.

The Foster Parenting Toolbox: A practical, hands-on approach to parenting children in Foster Care gan Kim Phagan-Hansel

Bydd pob plentyn yn unigryw ac angen set gwahanol o offer yn eich blwch offer.  Cyfrannodd dros 100 o rieni maeth, gweithwyr achos, gweithwyr cymdeithasol a barnwyr at y llyfr hwn i helpu pawb ar dîm y plentyn i ddeall a gweithio’n well gyda’r plant sy’n cael eu rhoi yn eu gofal.  Gan ymdrin â phynciau o fabis newydd anedig i blant yn eu harddegau a phopeth yn y canol, bydd y llyfr hwn nid yn unig yn helpu rhieni maeth, ond byddant yn fuddiol i’r rhai sy’n gweithio gyda rhieni maeth: gweithwyr achos, gweithwyr cymdeithasol, barnwyr ac eraill.

The Boy No One Loved – Casey Watson 

Casey Watson yw awdur mwyaf poblogaidd y Sunday Times, a dyma gofiant emosiynol cyntaf y gofalwr maeth.  Roedd Justin yn bum mlwydd oed; ei frodyr yn ddwy a thair blwydd oed.  Roedd eu mam, a oedd yn gaeth i heroin, wedi eu gadael ar eu pennau eu hunain eto.  Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ar ôl ceisio llosgi cartref y teulu, cafodd Justin ei roi mewn gofal.

More to me – Saty Cornelious

Nid yw ‘More to Me’ yn adlewyrchiad o un stori yn unig, ond y hytrach mae’n adrodd llawer o straeon.  Nid yw prif gymeriad y stori, Bri, merch yn ei harddegau mewn gofal maeth, ei theulu, a’u sefyllfa wedi’i seilio ar fywyd un person yn unig, ond ar gasgliad o wybodaeth, cyfweliadau a phrofiad.

Mae Bri yn cael trafferth mynd o fod yn ofalwr i fod yn blentyn mewn gofal.  Mae hyn yn aml yn wir am bobl ifanc mewn gofal – y cyfan y maent yn ei wybod yw’r cyfrifoldeb drostynt eu hunain, eu brodyr a’u chwiorydd, ac weithiau hyd yn oed eu rhiant.

Gall y pwnc fod ychydig yn drwm, ond mae’n trafod pynciau sy’n berthnasol i unrhyw un, nid teuluoedd mewn gofal maeth yn unig.  Mae themâu trosfwaol y llyfr yn cynnwys ymddiriedaeth, iselder a thorcalon.  Ond yn sail i’r cyfan mae gobaith.

Attachment, Trauma and Resilience – Kate and Brian Cairns

Dros gyfnod o 25 mlynedd, roedd Kate a Brian Cairns, ynghyd â’u tri phlentyn biolegol, wedi maethu 12 o blant yn amrywio o bedair i 15 oed ar adeg ymuno â’r teulu.  Yn y llyfr hynod ac ysbrydoledig hwn, mae Kate a Brian yn defnyddio cyfoeth eu profiad personol a phroffesiynol i gynnig cipolwg ar realiti bywyd teuluol gyda phlant sydd wedi byw drwy straen llethol.  Mae senarios a ddisgrifir yn glir yn dangos sut yr ymatebodd y teulu i blant yn arddangos teimladau pwerus ac ymddygiadau anodd yn dilyn eu profiadau o anawsterau ymlyniad, colled, camdriniaeth a thrawma.

I ddysgu mwy am ymweliad maethu – Maethu yng Nghasnewydd | Maethu Cymru Casnewydd

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch