blog

Awgrymiadau Da ar gyfer Astudio’n Effeithiol

Gall dod o hyd i’r ffordd orau o astudio fod yn anodd. Mae cymaint o opsiynau ac mae gan bawb eu barn eu hunain.

Fodd bynnag, nid oes un dull sy’n addas i bawb wrth ddysgu sut i astudio’n effeithiol. Dylai dulliau astudio gael eu teilwra i’ch anghenion. Mae gan bawb alluoedd gwahanol, felly mae’n bwysig penderfynu beth sy’n gweithio orau i chi.

Felly, beth yw strategaethau astudio effeithiol ar gyfer dysgu hirdymor?

1. Dewch o hyd i’r amser a’r lle iawn

Mae gan bawb eu ffordd ddelfrydol eu hunain o weithio. Mae rhai pobl yn gweld eu bod yn gweithio orau yn y bore, rhai yn y prynhawn, a  gyda’r nos yw’r amser delfrydol i bobl eraill.  Mae anghenion pawb yn wahanol, felly mae’n bwysig eich bod yn dod o hyd i’r hyn sy’n gweithio orau i chi.

Mae angen i chi hefyd arbrofi gyda lefelau sŵn. Efallai mai llyfrgell dawel sydd orau, neu efallai y byddai’n well gennych gael rhywfaint o gerddoriaeth yn cael ei chwarae.

2. Byddwch yn drefnus

Efallai eich bod yn rhywun sy’n gweithio orau gyda dyddiadau cau, nid yw hynny’n golygu na ddylech gynllunio. Nid ydych eisiau bod mewn sefyllfa lle mae gennych lawer o ddarnau o waith â’r un dyddiadau cau, a dim digon o amser ar gyfer y gwaith.

Hyd yn oed os nad ydych yn hoffi cynllunio, mae’n werth eistedd ac edrych ar eich dyddiadau cau i sicrhau eich bod yn gallu rheoli’r gwaith mewn pryd. Beth am roi cynnig ar ysgrifennu dyddiadau cau mewn dyddiadur neu gynllunydd i wneud yn siŵr nad ydych yn anghofio amdanynt?

3. Astudiwch ychydig ac yn aml

Fel arfer mae’n well gwneud rhywfaint o waith bob dydd, yn hytrach na threulio dau ddiwrnod yr wythnos yn gweithio’n wyllt. Y rheswm dros hyn yw’r ffaith ein bod i gyd yn cael diwrnodau mwy cynhyrchiol a llai cynhyrchiol. Er enghraifft, rai dyddiau efallai y byddwch yn flinedig, heb unrhyw gymhelliant, neu y byddai’n well gennych fod y tu allan yn yr heulwen. Os byddwch yn mabwysiadu polisi ‘ychydig ac yn aml’, bydd modd i chi weithio’n arafach ar ddiwrnod anghynhyrchiol.

4. Cymerwch seibiannau rheolaidd

Mae ymchwil gyda phlant ysgol wedi dangos bod gwneud 20 munud o waith, yna’n rhedeg o gwmpas am 5 munud cyn mynd yn ôl i’r gwaith eto yn fwy cynhyrchiol na cheisio gweithio am awr lawn.

Iawn, felly efallai nad ydych chi’n blentyn ysgol, ond gwobrwywch eich hun am waith dwys drwy gymryd seibiant byr bob awr neu ddwy: ewch i gael coffi, neu edrychwch ar eich e-byst. Fodd bynnag, byddwch yn ddisgybledig ynghylch pa mor hir y mae eich egwyl yn para. Beth am osod larymau ar eich ffôn i’ch helpu i wybod pryd i gymryd seibiant a phryd i ddechrau astudio eto?

5. Gofalwch amdanoch eich hun

Ni fyddwch yn gallu astudio’n effeithiol os nad ydych yn gofalu amdanoch eich hun. Ni all unrhyw un weithio’n dda os ydynt yn sâl neu os nad ydynt yn bwyta’n iawn.

Mae datblygu sgiliau astudio effeithiol yn gofyn am lawer o amser ac amynedd, ond mae gwybod sut i astudio’n effeithiol yn sgil a fydd o fudd i chi am oes.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch