blog

Pam ydych chi’n maethu

Fy enw i yw Grahame ac enw’r wraig yw Wendy, rydym wedi bod yn Maethu i’r awdurdod lleol am yr 8 mlynedd diwethaf, a rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod yn daith anhygoel gyda chymysgedd o hwyl a thristwch ond yn y pen draw ymdeimlad llethol o falchder a chyflawniad.

“Pam ydych chi’n maethu?”  yw’r cwestiwn mwyaf cyffredin a ofynnir i ni a gallaf ddweud yn onest fod cymaint o resymau cadarnhaol sy’n ein hysgogi i ofalu am y plant a pharhau i wneud hynny gydag angerdd.

Fe gawsom ferch 15 oed wedi’i lleoli gyda ni a dros y dyddiau cyntaf, ac fe aethom ar ychydig o deithiau diwrnod sylfaenol – siopa a mynd i’r traeth. Troes ati ar y trydydd diwrnod a gofyn iddi’n syml sut yr oedd hi’n teimlo, ac atebodd gyda deigryn yn ei llygad gan ddweud “Hapusrwydd yw hyn, ondife? Ro’n i’n gwybod amdano ond byth wedi ei brofi”

Yr unig ffordd gallaf esbonio’r rhesymau sylfaenol pam yr ydym yn maethu, yw drwy ddweud mai’r gallu i wella bywyd plentyn yn aruthrol, er gwell am byth ydyw. Y dull pwysicaf yw cynnig sylfaen ddiogel a chariadus iddynt er mwyn galluogi’r plant i archwilio’r byd o’u cwmpas yn naturiol, wrth iddynt gael eu harwain a’u meithrin gennym ni’r gofalwyr.

“beth wnaeth i chi benderfynu”?

Roedd ein plant ein hunain i gyd wedi tyfu i fyny ac wedi gadael ein cartref ond roeddem yn teimlo bod gennym gymaint i’w gynnig i blant eraill llai ffodus, felly penderfynom wneud rhywbeth yn ei gylch a chysylltu â’r awdurdod lleol i drafod maethu gyda nhw.

Mae’n rhaid imi ddweud, o’r pwynt cysylltu, roedd y tîm maethu, drwodd i’r sesiwn wybodaeth a’r broses hyfforddi a gynhaliwyd er mwyn ein paratoi ar gyfer maethu i gyd yn eithriadol o gefnogol, proffesiynol a chyfeillgar.

“beth yw’r peryglon?”

I ni o bell ffordd, mae’r wobr emosiynol a’r teimlad o gyflawni gweld y plant yn datblygu bywyd normal mewn amgylchedd arferol yn gwbl amhrisiadwy.  Ar y cyfan, mae plant yn dod i mewn i’r system ofal o bob cefndir ac oedran o’r newydd-anedig i’r arddegau, yn gyffredinol o lefelau amrywiol o esgeulustod, niwed emosiynol ac weithiau niwed corfforol.

“pa gefnogaeth sydd ar gael?”

Mae’r cymorth a gawn gan yr awdurdod lleol yn eithriadol, mae pob gofalwr maeth yn cael gweithiwr cymdeithasol cyswllt sy’n cefnogi ac yn darparu ar gyfer eich holl anghenion fel gofalwyr.  Mae’n rhaid imi ddweud ein bod yn lwcus i gael un o’r gweithwyr cyswllt gorau

“ydy hi’n anodd?”

Fel pob swydd mae adegau pan all fod yn anodd, yn enwedig ar ddechrau’r lleoliad.  Mae hynny’n mynd heibio’n gyflym iawn ac yn setlo i lawr.  O’r pwynt hwnnw ymlaen o brofiad, gwelwch y gwelliannau’n digwydd er gwell yn y plentyn. 

Mae’n helpu pan fydd eich teulu agos ac estynedig yn ymuno â chi wrth faethu gan ei fod yn effeithio ar eu bywydau gymaint â’ch un chi.

 Pe gallwn gynnig cyngor, byddwn i’n argymell bod yn gyson. Peidiwch byth â barnu teulu’r plentyn, dylech bob amser gefnogi a hyrwyddo cyswllt rhieni a brodyr a chwiorydd. Byddwch yn onest bob amser, gan wobrwyo a chydnabod cyflawniadau waeth pa mor fach.

Two adults and two children having fun together outdoors

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch