blog

Y Daith Faethu

Mae maethu yn daith werth chweil sy’n eich galluogi i newid a chael effaith gadarnhaol ar fywyd plentyn neu berson ifanc. 

Pan fyddwch yn maethu gyda Maethu Cymru Casnewydd, byddwn yn dod yn rhwydwaith cymorth lleol i chi, gan gynnig yr holl gymorth sydd ei angen arnoch chi a’r plentyn yn eich gofal.  Felly, ble bynnag y bydd eich taith faethu yn mynd â chi, mae ein tîm gyda chi bob cam o’r ffordd.

Felly, pwy well i siarad am daith maethu, na gofalwr maeth ein hunain yng Nghasnewydd, sydd wedi rhannu’n garedig ei stori gyda ni.Y daith

Y daith

y cam cyntaf

Dechreuodd y daith gyda galwad ffôn syml; prin y sylweddolais y daith y byddai’r un weithred hon yn mynd â fi arni.  Ro’n i wedi bod yn ystyried maethu ers blynyddoedd lawer, ond does dim syniad ‘da fi beth wnaeth fy ngwthio i wneud yr alwad y diwrnod hwnnw, ond dwi’n wirioneddol falch i fi wneud hynny.  Do’n i ddim yn siŵr beth oedd ‘da fi i’w gynnig.  Ro’n i’n fam i un ferch ifanc ryfeddol a doedd hi byth wedi achosi unrhyw drafferth i fi.  Sut fyddwn i’n ymdopi â pherson ifanc afreolus yn fy nghartref? 

yr asesiad

Drwy’r broses asesu, ces i fy sgubo ymaith ar daith o hunan-ddarganfod.   Dysgais i fwy am bwy oeddwn i a lle’r oeddwn i ‘di bod yn yr ychydig oriau ‘na yn siarad â’m Gweithiwr Cymdeithasol nag yn fy holl flynyddoedd fel oedolyn cyn hynny.  Dysgais fod fy mywyd wedi bod yn dapestri cyfoethog o brofiadau ac mai’r rheswm fod fy merch mor hawdd oedd fy mod wedi defnyddio’r gwersi bywyd hynny i siapio fy hun fel mam.  Ro’n i’n teimlo ‘mod i wedi drifftio drwy fywyd yn gymharol hawdd ond wrth i ni ddadbacio hanes fy nheulu a’m profiadau fy hun, sylweddolais fy mod wedi wynebu mwy o drawma yn fy mhlentyndod ac fel oedolyn ifanc nag yr oeddwn i’n meddwl.  Dewisais o’r dechrau i fod yn gwbl onest gyda’r Gweithiwr Cymdeithasol am fy mywyd a dwi’n synnu pa mor dda y cafodd hyn ei dderbyn.  Daeth y sesiynau asesu yn sesiynau therapi ac roedd y Gweithiwr Cymdeithasol yn anhygoel am dynnu sylw at y sgiliau allweddol yr oedd y digwyddiadau hyn wedi’u cyflwyno i’m bywyd.

Y Daith Faethu

Dwi bellach wedi croesawu fy mherson ifanc cyntaf i’m cartref a, diolch i’r sesiynau hynny gyda’m Gweithiwr Cymdeithasol, dwi’n hyderus bod y sgiliau ‘da fi i roi’r gefnogaeth gywir i’r person ifanc anhygoel hwn.  Mae yna drawma, galar dwfn a hunan-barch sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol.  Ry’n ni’n gweithio drwyddyn nhw’n araf deg a’r cyfan sydd angen i fi ‘neud yw bod yn fi fy hun.  Dwi’n siarad pan fyddan nhw eisiau siarad.  Dwi’n dangos cariad diamod at y person, fel ag y mae – ei glwyfau a phopeth.  Dwi’n dangos esiampl o berthynas iach ac, mewn dim ond mis, dwi eisoes yn dechrau gweld ei hunan-werth yn cynyddu.  Mae ‘na heriau, wrth gwrs, ond dwi’n eu hwynebu wrth iddyn nhw ddatblygu ac yn atgoffa fy hun drwy’r amser o sut y cafodd fy strategaethau ymdopi fy hun eu siapio gan fy mhrofiadau ac yn meddwl tybed beth sydd wedi digwydd ym mywyd y person ifanc yma i greu’r ymddygiad dwi’n ei weld.  Mae pawb jyst eisiau cael eu derbyn a theimlo eu bod nhw’n perthyn.  Mae gan bob un ohonom yr hawl i gael ein caru ac i’n hanghenion sylfaenol gael eu bodloni.  Rwy’n ymdrechu’n barhaus i geisio bodloni pa bynnag anghenion sydd gan y person ifanc, ar y funud honno.  Mae yn ei arddegau, felly does dim llawer o amser ‘da fi i helpu i wella’r canlyniadau ar gyfer y person ifanc dewr, rhyfeddol yma.  Mae wedi bod drwy gymaint, a dwi’n gobeithio y gallaf ei helpu i sylwi ar ei gryfder aruthrol cyn i’r person ifanc dyfu’n oedolyn sy’n teimlo’n ddi-werth. 

Y Daith Faethu

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch