blog

Yr angen am ofalwyr maeth sy’n Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol

Yr angen am ofalwyr maeth sy’n Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol

Cyfweliad gyda Nina Kemp-Jones am yr angen i sicrhau cymuned faethu fwy amrywiol.


Mae Nina yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig ac ar hyn o bryd yn Rheolwr Datblygu Rhanbarthol Maethu Cymru yng Ngwent.  A hithau’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol ei hun, newidiodd bywyd Nina pan gafodd ei maethu yn fabi a’i mabwysiadu’n drawshiliol yn ddiweddarach.  Chwaraeodd y profiad hwn ran allweddol yn y penderfyniadau a wnaeth Nina yn ddiweddarach yn ystod ei hoes ac mae’n awyddus i fwy o bobl o gefndir amrywiol ystyried maethu.

“Rwyf wedi bod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig ers dros 20 mlynedd,” meddai.  “Rwyf bob amser wedi gweithio yn y gwasanaethau i blant ac rwy’n credu bod hyn wedi’i ysgogi gan fy mhrofiadau bywyd fy hun.  Mae fy mherthynas â’m gofalwr maeth a’m rhieni mabwysiadol wedi bod yn ddylanwad mawr ac wedi fy ysbrydoli.”

Nina Kemp-Jones

Felly roedd Maethu Cymru Casnewydd yn awyddus i siarad â Nina ynghylch pam fod angen recriwtio mwy o ofalwyr maeth o gefndiroedd amrywiol.

Pam fod angen gweithlu maethu mwy amrywiol arnom?

Gall gofal maeth, yn ôl ei natur, fod yn amrywiol yn ddiwylliannol. Mae plant yn cael eu lleoli mewn cartrefi, lle gall disgwyliadau a dulliau cyfathrebu fod yn wahanol iawn i’r hyn y maent wedi arfer ag ef.  Ni waeth pa mor groesawgar yw eu gofalwyr maeth, mae’n rhaid i blant sy’n derbyn gofal addasu i lawer o wahaniaethau yn ystod cyfnod o drawsnewid emosiynol a chorfforol.   

Dywed Nina “Mae angen i ni allu paru plant sy’n derbyn gofal â gofalwyr maeth sy’n diwallu eu hanghenion orau ac mae hyn yn cynnwys anghenion diwylliannol, ieithyddol, crefyddol ac ethnigrwydd.  

Bydd plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal wedi profi gwahanol fathau o drawma a cholled. Yn y byd sydd ohoni mae angen inni ddeall hefyd y bydd rhai plant y mae angen gofal arnynt wedi wynebu trawma rhyfel.

Mae’n hanfodol bod gwasanaethau’n darparu cymorth i sicrhau bod plant o wahanol gefndiroedd ethnig yn derbyn gofal sy’n parchu eu diwylliant, eu credoau a’u hunaniaeth yn llawn.”

Sut y gallwn ddarparu cymuned faethu fwy amrywiol?

Esboniodd Nina fod angen i’r gwasanaethau maethu fod yn “gynhwysol ac yn hawdd eu llywio i rieni maeth o amrywiaeth o gefndiroedd gyda staff sy’n sensitif yn ddiwylliannol”, a bod angen i ni hefyd “ddatblygu mwy o gyd-ddealltwriaeth a chynyddu’r cymorth i ofalwyr sy’n darparu lleoliadau trawsddiwylliannol.

Mae angen meithrin ymddiriedaeth o fewn gwahanol gymunedau ethnig drwy ddarparu gwybodaeth megis pam fod angen gofal maeth ac ymyriadau gan y wladwriaeth, yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw bryderon penodol, a fydd, gobeithio, yn ceisio dileu unrhyw rwystrau i ddarpar ofalwyr maeth yn y cymunedau hyn.”

Yn ôl StatsCymru, ym mis Mehefin 2021, Casnewydd sydd â’r ail nifer fwyaf o bobl o gefndir nad yw’n wyn yng Nghymru. Gydag 85.8% o bobl yn dod o gefndir gwyn a 14.2% o bobl sy’n o gymunedau ethnig lleiafrifol. Cododd niferoedd y ceiswyr lloches a ffoaduriaid pan ddaeth Cymru yn ardal wasgaru.  Mae’r ffigurau hyn yn dangos cyfle gwirioneddol i recriwtio gofalwyr maeth wedi’u targedu o gefndir sy’n cyfateb i anghenion y boblogaeth gofal.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch